Diarhebion 21:17-31
‘EIDDO’R ARGLWYDD YW’R FUDDUGOLIAETH’
Ni ellir osgoi’r sylw a roddir unwaith eto i’r defnydd iawn o’r tafod (23, 28; a hefyd 19, 24). Dyma un o bwysleisiau cyson y llyfr, ac ni allwn ond bod ar ein colled o’i anwybyddu; ond yma cawn fwrw golwg dros rai o’r diarhebion eraill.
Difyrrwch
‘Caru pleser’ (17) yw crefydd pobl lawer heddiw; dyma bwrpas mawr eu bywyd. Difyrrwch o bob math – adloniant, chwaraeon, y dillad diweddaraf, yfed a bwyta (‘gwin ac olew’), gwyliau, y teclynnau mwyaf modern, ac ati – sy’n cyfrif fwyaf. Nid oes dim o’i le ar y rhain ynddynt eu hunain, ond nid yw’r ysfa am ddifyrrwch yn cwrdd â gwir angen pobl; gweler, e.e., Pregethwr 2:1-11. Yn wir, mae rhywbeth trist a thlawd am fywyd y sawl sy’n ymroi’n unig i geisio difyrrwch.
Diogi
Mae cysylltiad yn aml rhwng ‘caru pleser’ a diogi. Gall segura ymddangos yn ddeniadol ar y pryd, ond mae’r canlyniadau’n alaethus (25). Dyheu’n ofer a wna’r diogyn, heb fynd ati i wneud rhywbeth pwrpasol, ond mae’r ‘cyfiawn’ yn rhoi o’i amser, ei ddoniau, a’i eiddo’n hael (26), ac mae’r ‘doeth’ yn darparu mewn pryd ar gyfer ei holl anghenion (20). Cofier eto esiampl y morgrugyn (6:6-11).
Dilyn
Nid ymddwyn felly’n achlysurol a wna’r ‘cyfiawn’ a’r ‘doeth’. Yn hytrach, dyma holl osgo eu bywyd. Mae eu bryd ar ‘ddilyn’ yn gyson (21) a dal ati’n ffyddlon. Deallant werth ‘trefnu’ eu ffyrdd yn ofalus (29), gan geisio arweiniad (30) a chymorth (31) Duw hollwybodol a hollalluog.
Defodau
Mae lle pwysig yn yr Hen Destament i ddefodau crefyddol, e.e. yr aberthau sy’n pwyntio at yr angen i symud digofaint Duw yn erbyn pechod a sicrhau cymod rhyngddo a’r pechadur. Er hynny, pwysleisir mai ofer pob aberth os nad oes gwir addoliad yn y galon (27; 1 Sam. 15:22; Hos. 6:6). Mae defodau’r Hen Destament bellach wedi eu cyflawni yn Iesu Grist, ond rhaid wrth ffydd ynddo ef er mwyn derbyn lles o’i aberth a’i fuddugoliaeth ar y groes (Heb. 10:8-14, 18-23).