Diarhebion 21:1-16
‘… YN LLAW’R ARGLWYDD’
Brenin
Symbol o rym ac awdurdod yw’r brenin: ef sy’n teyrnasu, a rhaid i’w ddeiliaid blygu o’i flaen mewn teyrngarwch ac ufudd-dod. Ond mae’n bwysig cofio fod y brenin yntau – a phob un mewn awdurdod, o ran hynny – yn llaw Duw (1). Y brenin sy’n llywodraethu, ond y mae Un sy’n goruwchlywodraethu, sef ‘Brenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi’ (Dat. 19:16; cymharer Dan. 4:34-35).
Barn
Mae’r brenin yn ‘eistedd ar orsedd barn’ (20:8), i wneud yr hyn sy’n gyfiawn, yn enwedig yng ngolwg Duw. Mae gweithredu ‘barn’ yn yr ystyr yma’n bwysicach gerbron Duw na defodau crefyddol (3). Yn wir, mae ‘gwrthod gwneud yr hyn sydd uniawn’ yn arwain at ddinistr sicr yr annuwiol (7). Daw canlyniadau anochel hefyd i’r sawl sy’n amharod i wneud ‘barn’ yn achos y tlodion (13). Ar y llaw arall, ‘Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder’ (15): gwneud yr hyn sy’n dda yng ngolwg Duw yw ei bleser mwyaf.
Ond defnyddir y gair ‘barn’ yma hefyd i gyfeirio at farn Duw. Yn hwyr neu’n hwyrach, ar y ddaear hon neu’n sicr ar Ddydd y Farn, bydd Duw yn unioni pob cam ac yn sicrhau fod yr annuwiol yn cael eu haeddiant (7, 12, 15; dyna sydd hefyd wrth wraidd adnodau 2, 6, 13, a 16). Yr un yw dysgeidiaeth eglur y Testament Newydd: e.e. Actau 17:30-31; Hebreaid 9:27.
Balchder
Un o’r pethau amlycaf a fernir gan Dduw yw balchder. Mae’r gwirionedd hwn wedi cael sylw o’r blaen (e.e. 16:5), ond mae datganiad syml adnod 4 yn ddigon i’n sobri.
Bwriadau
Mae balchder a phechodau eraill i’w gweld yn amlwg ym mwriadau a chynlluniau pobl: ‘Y mae’r drygionus yn awchu am wneud drwg’ (10). O geisio gweithredu bwriadau annheilwng, hawdd ‘troi oddi ar ffordd deall’ (16). Ac er bod ein bwriadau’n ymddangos yn ddigon clodwiw i ni, cofiwn mai Duw sy’n ‘cloriannu’r galon’ (2). Ymbalfalu a wnawn ni, a methu’n aml am ein bod yn gweithredu ‘mewn brys’ (5); gweld y cyfan, gwybod y cyfan, a llywio’r cyfan (1) a wna Duw.