Diarhebion 20:16-30
‘DISGWYL WRTH YR ARGLWYDD …’
Diwedd
Mae’r llyfr hwn yn awyddus inni ystyried diwedd pethau. Mae tipyn o dwyll fel petai’n talu’n dda ar y dechrau, ond ‘yn y diwedd …’ (17). Gall peidio â pharchu rhieni ymddangos yn arwydd o ryddid ac annibyniaeth, ond daw canlyniadau’n ddi-ffael (20). Mae derbyn rhodd sylweddol o arian ac eiddo’n apelio’n fawr, ond ‘ni bydd bendith ar ei diwedd’ (21). Hawdd cenfigennu wrth yr annuwiol yn eu ‘llwyddiant’ bydol, ond mae ystyried eu diwedd yn ein sobri (Salm 73:1-20).
Datguddio
Mae ystyried y diwedd yn berthnasol hefyd i’n hymwneud â phobl eraill. Er enghraifft, mae’r sawl sy’n ceisio ein seboni ni, gan ddatguddio cyfrinachau am eraill er mwyn porthi ein balchder, yr un mor debygol o ddatguddio ein cyfrinachau ni iddynt hwythau (19). Mae angen gweld drwy’r weniaith, felly – ac ystyried o ddifrif ganlyniadau ymwneud â gwenieithwyr. Cymharer 11:13; Rhuf. 16:18.
Dial
Rhaid deall hefyd sut i ymateb i’r sawl sy’n gwneud tro sâl â ni. Ceisio dial yw’r ymateb amlwg – ond nid felly y mae pobl Dduw i ymagweddu (22). Os bu cam diamheuol, mae’n bosibl fod angen sicrhau cyfiawnder; ond rhaid gwneud hynny’n ofalus, rhag dwyn anfri ar yr Efengyl. ‘Disgwyl wrth yr Arglwydd’ (22) sydd orau, gan lwyr gredu y daw achubiaeth a daioni ganddo. Gweler Rhufeiniaid 12:17-21.
Deall
Ychydig sy’n deall eu diwedd, magl y gwenieithiwr, a goblygiadau dial. Ac ychydig sy’n deall cyfeiriad eu bywyd ac arwyddocâd y pethau sy’n digwydd iddynt (24). Mae’n eithriadol bwysig, felly, gyflwyno ein ‘cerddediad’ i ddwylo Duw, gan hyderu y bydd ef yn ein harwain – a’n hamddiffyn – yn unol â’i ragluniaeth ddoeth a da (24).
Dioddefaint
Gall y rhagluniaeth ddoeth a da hon olygu dioddefaint, gan gynnwys ergydion caled sy’n peri poen a dryswch inni (30). Ond ‘gwella drwg’ yw diben y rhain, drwy ein puro a’n dwyn yn nes at Dduw. Gweler Hebreaid 12:5-13.