Diarhebion 20:1-15
‘PWY A ALL GAEL DYN FFYDDLON?’
Gwin
Mewn cymdeithas sy’n ei thwyllo’i hun mai alcohol yw’r allwedd i lawenydd a’r ateb i bob math o broblemau, ceir yn adnod 1 air yn ei bryd. Nid yw’r Beibl yn condemnio gwin na diod gadarn fel y cyfryw (gweler, e.e., Ioan 2:1-11; 1 Tim. 5:23), ond mae’n llawn rhybuddion am y niwed y gallant ei achosi. ‘Nid doeth mo’r sawl sydd dan eu dylanwad’, a dweud y lleiaf. Cawn gyfle i sylwi eto ar y diffyg doethineb yma ym mhennod 23.
Gweithio
Mae Llyfr y Diarhebion hefyd yn rhybuddio rhag diogi. Daw’r diog o hyd i bob math o esgus dros beidio â gweithio, ond ef ei hun a fydd yn dioddef yn y diwedd (4). Hawdd ildio i’r temtasiwn o gysgu a chau llygad i’r hyn y mae gwir angen ei wneud (13); ond ni allwn osgoi’r canlyniadau trist. Ac os yw hyn yn wir am fywyd yn gyffredinol, mae hefyd yn wir am ein bywyd ysbrydol (Eff. 5:14-16).
Gwirionedd
Yn hytrach na diogi, mae’r Cristion i ymroi i geisio gogoneddu Duw ym mhob rhan o’i fywyd. ‘Y mae’r cyfiawn yn rhodio’n gywir,’ medd adnod 7; hynny yw, uniondeb a gwirionedd sydd i’w nodweddu drwy’r amser (cymharer 3 Ioan 3-4). Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd gan y Cristion fesur o awdurdod (8), yn enwedig o ystyried y diffyg uniondeb a’r prinder gwirionedd yn y byd. Hyn sy’n gyfrifol am yr ymdrechion bwriadol i dwyllo a nodir yn adnodau 10 a 14. ‘Gwneud y gwirionedd’ (1 Ioan 1:6) – dyna grynodeb ardderchog o fywyd ymarferol y Cristion.
Glanhau
‘Ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod,’ medd yr adnod sy’n dilyn y crynodeb hwn (1 Ioan 1:7). Yma cawn oleuni ar gwestiwn pwysig adnod 9. Cynigir pob math o atebion i broblem aflendid pechod, ac weithiau daw anobaith o sylweddoli pa mor wag ac ofer ydynt. Ond cyhoedda’r Beibl yn eglur fod modd cael calon lân, maddeuant pob pechod, a chymod â Duw, drwy ffydd yn Iesu Grist. Gweler Effesiaid 1:7; Titus 2:14; Hebreaid 9:14.