Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 19:16-29

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 19

Diarhebion 19:16-29

‘CYNGOR YR ARGLWYDD SY’N SEFYLL’

Cadw

‘Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid’, medd adnod 16 (cyfieithiad William Morgan); cymharer, e.e., 13:13; 29:18; Salm 1:2-3; 19:11. Pwysleisia’r Testament Newydd, fodd bynnag, mai drwy ffydd yng Nghrist, ac nid drwy ufuddhau i ddeddf Duw, y mae iachawdwriaeth (Act. 13:39; Rhuf. 3:20, 28; Gal. 2:16). A oes gwrthddweud yma, felly? Dim o gwbl. Rhoddodd Duw y ddeddf yn Exodus 20 yn sgil y ffaith iddo eisoes achub yr Israeliaid o’r Aifft a’u cymryd yn bobl iddo’i hun (Ex. 20:2). Roeddent i ymateb i’r fath drugaredd drwy gadw gorchmynion eu Duw grasol; cyhoeddi a wnâi’r ufuddhau eu bod eisoes wedi profi ffafr Duw. A dyma ergyd adnod 16: i’r Cristion, mae cadw gorchmynion Duw yn ganlyniad i brofi gras dwyfol, yn arwydd o ffydd ddilys, ac yn ddatganiad o barodrwydd i anrhydeddu Duw ym mhob rhan o fywyd. Gweler Effesiaid 2:8-10; Titus 2:14.

Cerydd

Ond hyd yn oed lle ceir profiad o ras dwyfol, ffydd ddilys, a pharodrwydd i anrhydeddu Duw, gall fod angen am gerydd ar adegau. Bydd y doeth yn derbyn y cerydd ac yn elwa arno (25). Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos plant (18). Mae perygl ‘difetha’ plant o’u gadael heb eu ceryddu – a derbyn fod y cerydd yn gyfiawn ac yn addas, wrth reswm. Gweler 13:24.

Cyngor

Rhaid bod yn barod i dderbyn cerydd teg a phriodol – a hefyd i dderbyn cyngor os am fod yn ddoeth (20). Y cyngor gorau oll, wrth gwrs, yw ‘cyngor yr Arglwydd’, gan mai hwnnw’n unig a fydd yn sefyll yn gadarn (21). Mae gan Dduw ei fwriadau dwyfol, a bydd y rheini’n drech na phob cynllun dynol. Ac mae’n datguddio llawer o agweddau gwerthfawr arnynt, er lles i ni, yn yr Ysgrythurau.

Cyfeiliorni

Ffôl yw anwybyddu’r datguddiad hwn. Cawn yma nifer o enghreifftiau o’r ffolineb hwn ar waith (16, 19, 26-29). Mae ‘cyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth’ (27; cyfieithiad William Morgan) yn sicr o arwain i ddistryw. Llawenydd y Cristion, yn hytrach, yw ‘cadw gorchymyn’ (16) yr Un sydd wedi tywallt ei ras arno yng Nghrist.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF