Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 19:1-15

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies

Diarhebion 19:1-15

‘ANRHYDEDD YW MADDAU TRAMGWYDD’

Tlawd

Rhoddir cryn sylw yma – ac yn y llyfr drwyddo draw – i’r tlawd. Gwaetha’r modd, mae’r tlawd yn aml yn dioddef yn y byd sydd ohoni (4). ‘Y mae . . . pawb yn gyfaill i’r sawl sy’n rhoi’ (6), ond hawdd iawn i bobl – hyd yn oed y teulu agos – ddirmygu’r tlawd a cheisio cymryd mantais arno (7). Eto i gyd, nid yw’r tlawd yn ddiobaith. Nid oes ganddo lawer o gyfeillion yn y byd hwn, efallai; ond y mae ef, fel hwythau, yn byw ei fywyd gerbron Duw. Ac mae’r ‘tlawd sy’n byw’n onest’ o flaen Duw yn llawer gwell ei fyd na chyfoethogion annuwiol y ddaear (1; cymharer Luc 16:19-31).

Twyll

Rydym nid yn unig yn byw ein bywydau ond hefyd yn llefaru ein geiriau gerbron Duw. Er bod modd i bobl dwyllo eraill drwy eu celwyddau, ni fedrant dwyllo Duw (5, 9). Yn y pen draw dygir pob twyll dirgel i olau dydd (Luc 12:2-3). Ni chaiff y twyllwr ddianc: rhaid ateb i Dduw am dorri ei orchmynion (Ex. 20:16).

Tramgwydd

Sut y dylid ymateb i rywun sy’n ceisio ein twyllo, neu sy’n ein tramgwyddo mewn rhyw ffordd arall? Mae ateb y Testament Newydd yn ddigamsyniol: rydym i garu ein cymydog (Luc 10:27) – a’n gelyn (Luc 6:27-28). Ond sut mae gweithio’r cariad hwn allan yn ymarferol? Cawn un ateb yn nechrau adnod 11: rhaid gwylio rhag adweithio’n wyllt i’r tramgwydd (cymharer 14:29). Ond mae ail hanner yr adnod hefyd yn bwysig. Gall fod angen trafod ambell achos difrifol wyneb yn wyneb, gan ddilyn Mathew 18:15-17. Yn aml iawn, fodd bynnag, gwell anghofio’r hyn sydd wedi digwydd, gan wrthod tynnu sylw at y tramgwydd a fu. Gweler 1 Pedr 4:8.

Teulu

Un o fendithion mwyaf Duw ar y ddaear hon yw bywyd teulu sy’n ddedwydd ac yn dangnefeddus. Rhan hanfodol o’r bywyd hwnnw yw ‘gwraig ddeallus’, yn rhodd oddi wrth Dduw ei hun (14; cymharer 18:22; 31:30). Ond nid felly y mae bywyd pob teulu (13). Mewn byd syrthiedig caiff rhoddion da Duw eu llygru a’u camddefnyddio’n aml. A’r canlyniad? ‘Dinistr’ a ‘checru’, gofid a thorcalon.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF