Diarhebion 18:14-24
‘MEDDWL DEALLUS’
Unwaith eto rhoddir pwyslais ar eiriau (gweler adnodau 20, 21, 23), ond trown ein sylw at faterion eraill.
Cynnal
Wrth wynebu problemau bywyd, mae cymaint yn dibynnu ar ein hagwedd fewnol. Yn wir, mynega adnod 14 wirionedd gwerthfawr a gydnabyddir yn gyffredinol yn achos afiechydon amrywiol. Ar y llaw arall, ‘Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun’ (12:25), ac felly mae’r frwydr i bob pwrpas wedi ei cholli. Gobaith yw un o nodweddion pwysicaf yr Efengyl. Nid yw’r Cristion yn anwybyddu realiti profedigaethau, ond nid yw chwaith yn gadael iddynt ei lethu (2 Cor. 4:8-11).
Coelbren
Er mwyn byw i Dduw yn y byd hwn, rhaid wrth arweiniad clir. Yn yr Hen Destament defnyddid coelbren yn achlysurol i geisio arweiniad (e.e. Jos. 14:1-2; 1 Cron. 25:8), gan ddatrys unrhyw anghydfod posibl (18). Cofnodir enghraifft arall yn Actau 1:26; ond mae hyn yn digwydd cyn rhoi’r Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost. Gan fod yr Ysbryd bellach yn preswylio yng nghalon y Cristion (Rhuf. 8:9-11), nid oes angen mwyach am goelbren na phethau tebyg. Ein braint yw gofyn yn syml i Dduw ei hun am yr arweiniad sydd ei angen arnom. Gweler addewidion Luc 11:9-13.
Cymar
Un o’r meysydd pwysicaf lle mae angen arweiniad yw dewis cymar bywyd. Ordinhad anrhydeddus Duw, er lles pobl, yw priodas (22; Gen. 2:18). Ond mae’n bwysig cofio mai gwell yw peidio â phriodi na rhuthro i berthynas anaddas ac anfuddiol o’r math a nodir yn 19:13; 21:9, 19; 25:24.
Cyfaill
Dylai cymar da fod hefyd yn gyfaill da. Ac fel y mae angen arweiniad ynghylch dewis cymar, tystia rhan gyntaf adnod 24 fod angen dewis cyfeillion yn ofalus. Ond mae ail hanner yr adnod yn troi ein sylw eto at Iesu Grist:
Wel, dyma’r Cyfaill gorau ga’d;
Mae’n ganmil gwell na mam na thad;
Ym mhob caledi ffyddlon yw.