Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 18:1-13

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 18

Diarhebion 18:1-13

‘Y MAE ENW’R ARGLWYDD YN DŴR CADARN’

Cawn nifer o gyfeiriadau eto yn yr adnodau hyn at eiriau – ac yn enwedig at y drygioni sy’n ganlyniad i eiriau ffôl (4, 6, 7, 8, 13). Neges gyson y llyfr hwn yw pwysigrwydd geiriau fel arwydd o gyflwr y galon (2). Fodd bynnag, gan inni roi sylw i’r pwyslais hwn droeon eisoes, edrychwn y tro hwn ar ambell gyngor gwahanol.

Ymneilltuo

Profiad digon cyffredin yw dod ar draws y math o berson a ddisgrifir yn adnod 1. (Yn wir, gall fod elfen o’r person hwn ym mhawb ohonom!) Mae’n benderfynol o ymneilltuo a chadw ar wahân. Mae’n mynnu gwneud pethau yn ei ffordd ei hun, gan fod yn feirniadol iawn o gynlluniau ac ymdrechion pawb arall. Yn wir, mae fel petai’n chwilio am gyfle i godi gwrychyn pobl eraill. Nid felly y mae’r Cristion i ymagweddu. I’r gwrthwyneb: mae Iesu Grist yn gosod gwerth mawr ar gariad brawdol fel arwydd o wir ffydd (e.e. Ioan 13:34-35; 15:12, 17), ac mae geiriau Paul yn Rhufeiniaid 12:16-21 yn berthnasol iawn yn y cyswllt hwn.

Ymochel

Yng nghanol stormydd bywyd, i ble mae troi am noddfa? Gall rhywun geisio diogelwch mewn cyfoeth ac eiddo: y rhain yw ei ‘ddinas gadarn’ – ‘yn ei dyb ei hun’ (11). Ond tŷ ar y tywod ydynt mewn gwirionedd pan fydd y gwynt yn codi’n gryf a’r glaw yn pistyllio i lawr (Math. 7:26-27). Dim ond mewn un man y ceir tŵr cadarn a diogel, sef Duw ei hun (10; cymharer Salm 46:1-3). A dim ond mewn un man, sef Iesu Grist, y gellir ymochel rhag cyhuddiadau a chondemniad deddf Duw. Gweler Salm 62:5-8.

Ymfalchïo

Os yw geiriau’n cael llawer o sylw yn y llyfr hwn, felly hefyd falchder. Cyflwynir yma neges bwysig y dylai pawb ei dysgu: dinistr yw canlyniad balchder (12). Po fwyaf y bydd rhywun yn ymchwyddo yn ei allu, ei ddoniau, ei statws, a’i orchestion, mwyaf i gyd fydd ei gwymp. Mae gostyngeiddrwydd, ar y llaw arall, yn llawer mwy tebygol o arwain at anrhydedd sy’n parhau yn ei werth a’i effaith. Gweler 1 Pedr 5:5.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF