Diarhebion 17:15-28
‘… YN GYFAILL BOB AMSER’
Ceir yn yr adnodau hyn ddiarhebion i godi calon a rhybuddio, i ddysgu a cheryddu. Mae ‘holl arfaeth Duw’ (Act. 20:27) yn cyffwrdd â phob rhan o fywyd, oherwydd fod y ddaear gyfan yn perthyn iddo (Salm 24:1).
Cyfiawnder
Mae Duw yn gwbl gyfiawn (Salm 119:137), ac felly mae gwyrdroi cyfiawnder yn ffiaidd ganddo (15). Mae’n sarhad ar Dduw ei hun, ac ar ei fwriadau ar gyfer pobl y ddaear. Ni all ‘gwyrdroi llwybrau barn’ (23) byth fod er lles. Ac mae ‘cosbi’r cyfiawn’ (26) yn arwydd fod rhywbeth mawr o’i le ar gymdeithas.
Cyfaill
Yng nghanol y fath lygredd, peth gwerthfawr yw cyfaill da – un sy’n ‘gyfaill bob amser’, yn aros yn ffyddlon yn wyneb pob siom a diflastod (17). Gall ‘cyfeillion’ drwg fod yn fagl inni (1:10-19), ond mae cyfaill da yn rhoi cymorth, cefnogaeth, ac anogaeth. O feddwl am hyn, anodd peidio â chofio geiriau’r emyn:
Un a gefais imi’n gyfaill;
Pwy fel Efe!
Calon
Un o gyfraniadau pwysicaf cyfaill da yw codi ein calon pan fyddwn yn suddo dan y don. Mae ‘calon lawen’ (22) yn gwneud byd o wahaniaeth – i ni ein hunain ac i bobl eraill. Yn y pen draw, wrth gwrs, dim ond yn Iesu Grist – y Cyfaill gorau – y ceir y llawenydd hwn (Phil. 4:4). Rhaid wrth newid sylfaenol, felly, yng nghalon y rhai ynfyd (16), cecrus (19), cyfeiliornus (20), a drygionus (23). Hynny yw, rhaid wrth ailenedigaeth cyn y gellir cael calon wirioneddol lawen.
Cywilydd
Gwaetha’r modd, mae’n well gan laweroedd aros yn eu tywyllwch na dod at y goleuni (Ioan 3:19-20). Ac o aros yn y tywyllwch, daw cywilydd a gofid i ni ac eraill, yn enwedig ein hanwyliaid (21, 25). ‘Y mae … pechod yn warth ar bobloedd,’ medd 14:34 – ac mae’n hollol wir. Gogoniant yr efengyl, fodd bynnag, yw rhyddhau pobl oddi wrth eu pechod, er mwyn iddynt gael calon newydd sy’n dilyn cyfiawnder (1 Tim. 6:11; 2 Tim. 2:22).