Diarhebion 17:1-14
‘YR ARGLWYDD SY’N PROFI CALONNAU’
Gwedd negyddol sydd i lawer o’r adran hon, a da cael y rhybuddion yma. Byd pechadurus yw hwn, a phobl bechadurus sy’n byw ynddo. Bod yn naïf – ac yn anysgrythurol – yw tybio’n wahanol. Gan fod yr Arglwydd yn adnabod ac yn profi’r galon (3), bydd ei bobl yn gwylio rhag cael eu llygru gan ddylanwadau drwg y byd.
Ymryson
Ceir rhybuddion yma am beryglon ymryson a chynnen. Nid yw eiddo lawer na gloddesta bras yn cyfrif am ddim lle mae’r rhain yn bresennol (1). Mae angen gwylio rhag y rhai sy’n hoffi creu ffrwgwd (11), a gwrthod ildio i’r temtasiwn i gweryla, gan nad oes neb yn gwybod beth fydd pen draw cynnen (14). Gweler Rhufeiniaid 12:18.
Ymhyfrydu
Rhaid gwylio hefyd rhag y sawl sy’n dirmygu’r anghenus ac yn cael blas ar ofidiau pobl eraill, gan ‘ymhyfrydu mewn trychineb’ (5). Mae’r Un sy’n profi’r galon yn siŵr o sylwi ac ymateb (3, 5). Un llawn tosturi ydyw, ac mae’n galw arnom ninnau i dosturio wrth eraill sy’n profi amserau anodd (Salm 103:13-14; Sech. 7:9-10).
Ymateb
Ond sut mae ymateb pan fydd rhywun heb dosturio wrthym ni? Hyd y mae’n bosibl, rydym i garu’r person hwnnw, gan beidio â gwneud sylw o’r ‘cam’ rydym yn tybio inni ei gael (9; cymharer 1 Ped. 4:8). Rydym i gymryd rhybudd adnod 13 o ddifrif; yn wir, rhaid ymateb i’r gwrthwyneb, drwy dalu da am ddrwg (Math. 5:38-48).
Ymadrodd
O’r braidd y ceir unrhyw adran yn y llyfr sydd heb gyfeiriad at y defnydd o eiriau. Yn adnodau 4 a 7 mae rhybudd rhag y drwg a achosir gan gelwyddau, yn adlais amlwg o Exodus 20:16.
Ymwahanu
Er hyn i gyd, nid yw pwyslais yr adran yn gwbl negyddol. Daw lles pendant yn sgil ymwahanu oddi wrth ddrygioni (1, 2; dyna sail y darlun hyfryd yn adnod 6 hefyd). Ni fydd neb ar ei golled o geisio anrhydeddu’r Un sy’n profi calonnau (1 Sam. 2:30).