Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 16:16-33

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 16

Diarhebion 16:16-33

‘GWELL NAG AUR YW ENNILL DOETHINEB’

Mae cael ein blaenoriaethau’n iawn yn eithriadol bwysig wrth fyw yn y byd. Ceisio arian a bywyd cysurus y mae llawer. Yn ôl Diarhebion, fodd bynnag, nid dyma’r pethau sy’n wirioneddol werthfawr. Nid yw cyfoeth i’w gymharu â doethineb (16). Nid yw henaint i’w ddibrisio; yn hytrach, mae’n ‘goron anrhydedd’ os yw’n cyd-fynd â ‘rhodio’n gyfiawn’ (31). Mae bywyd ar y ddaear yn bwysig, ond mae pen draw’r bywyd hwn, a’r hyn sydd tu hwnt iddo, yn bwysicach fyth (25). Yn fwy na dim, rhaid cofio Duw. Yn ei ras mae ef yn ‘rhoi inni yn helaeth bob peth i’w fwynhau’ (1 Tim. 6:17), ond mae cael ein blaenoriaethau’n iawn yn golygu rhoi’r lle pennaf yn ein bywydau iddo ef. Y sawl sy’n ymddiried yn yr Arglwydd sy’n ddedwydd mewn gwirionedd (20). Wrth geisio cael ein blaenoriaethau’n iawn fel hyn, daw nifer o ganlyniadau ymarferol i’r golwg:

Ymwrthod

Yn gyntaf, bydd y person doeth yn ymwrthod â drygioni (17; cymharer Rhuf. 6:1-2, 14-18). Arwain i farwolaeth y mae’r ffordd sy’n apelio at ein natur ddynol bechadurus (25). Disgrifir ymddygiad y dyn drygionus yn adnodau 27-30, i’n dysgu i ymwrthod â phob dim sy’n ffiaidd yng ngolwg Duw.

Ymostwng

Yn ail, bydd y person doeth yn barod i ymostwng. Mae cael ein blaenoriaethau’n iawn yn golygu bod yn ymwybodol o beryglon difrifol balchder (18). Gwell dewis bod yn ddistadl a di-nod gyda’r anghenus a’r tlawd, felly, nac ennill cyfoeth mawr yng nghwmni’r rhai balch (19). Gweler Effesiaid 5:21; Philipiaid 2:3-11.

Ymatal

Yn olaf, bydd y person doeth yn dysgu ymatal, yn enwedig wrth siarad. Nid beirniadu’n ddiachos ac yn ormodol, nid lledu sïon, nid clebran maleisus am bobl eraill sy’n mynd â’i fryd. Yn hytrach, mae’n anelu at lefaru geiriau deallus (23), geiriau cadarnhaol, geiriau a fydd yn gwneud lles (24). Mae’n ymwybodol o’r niwed a ddaw drwy ymfflamychu, ac felly mae’n dra awyddus i gael ei flaenoriaethau’n iawn wrth beidio ag ymateb yn wyllt (32), fel ym mhob rhan arall o’i fywyd. Cofiwn yr esiampl a gyflwynir yn Es. 53:7.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF