Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 16:1-15

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 16

Diarhebion 16:1-15

‘CYFLWYNA DY WEITHREDOEDD I’R ARGLWYDD’

Ceir nifer o adnodau yn yr adran hon sy’n troi ein sylw at natur a ffyrdd Duw. Yng ngoleuni’r adnodau hyn, mae anogaeth adnod 3, sef ‘Cyflwyna dy weithredoedd i’r Arglwydd’, yn hynod berthnasol.

Pwyso

Mae tuedd naturiol ynom ni i gyd i dybio mai ni sy’n iawn a chyfiawnhau ein syniadau neu ein hymddygiad ein hunain doed a ddelo (2). Yn ôl 12:15, ffolineb sydd wrth wraidd y duedd hon. Peth iach, felly, yw cofio fod Duw yn gweld ymhellach ac yn gywirach na ni. Mae ef yn pwyso ac yn cloriannu nid yn unig ein gweithredoedd ond hefyd ein hysbryd – ein calon, ein cymhellion cudd (2; gweler hefyd yr hanes yn Daniel 5:5-6, 24-31, ac yn enwedig adnod 27).

Pechod

Yn y bôn, mynegiant o’n natur bechadurus yw ein hawydd ysol i dybio mai nyni sy’n iawn ac i fynnu ein hamddiffyn ein hunain pan fydd eraill yn mentro ein cywiro. Yn fwy penodol, dyma enghraifft o falchder dynol. Yn ôl adnod 5, fodd bynnag, ‘Ffiaidd gan yr Arglwydd yw pob un balch’ (cymharer Iag. 4:6). Mae Duw cyfiawn a phechod dynol yn hollol wrthwyneb i’w gilydd (6), ac mae perthyn i’r Duw hwn yn golygu gosod mwy o werth ar gyfiawnder nag ar ennill cyfoeth mawr drwy gam (8).

Penarglwyddiaeth

Er nad yw hyn yn amlwg bob amser i ni, Duw sy’n teyrnasu dros bob peth mewn gwirionedd (4; Salm 97:1; 99:1). Mae Duw yn drech na’i elynion – ac yn drech na gelynion ei bobl (7; cymharer Salm 23:5). Yn wir, mae’n goruwchlywodraethu ar ein holl gynlluniau arfaethedig, gan beri weithiau i’r canlyniadau fod yn dra gwahanol i’n bwriad gwreiddiol ni (9; dyna ergyd adnod 1 hefyd).

Pennaeth

Ceir yma nifer o adnodau sy’n sôn am freintiau a chyfrifoldebau brenin (10, 12, 13, 14, 15), ac sy’n berthnasol i bob un ag unrhyw fath o awdurdod yn ei ddwylo. Ond cawn ein hatgoffa hefyd am y gwir bennaeth, Brenin brenhinoedd, a’i briodoleddau digymar. ‘Bydded i  … blant Seion orfoleddu yn eu brenin,’ felly (Salm 149:2).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF