Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 15:18-33

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 15

Diarhebion 15:18-33

 

‘BETH SY’N WELL NA GAIR YN EI BRYD?’

 

Ni allwn fynd yn bell yn Llyfr y Diarhebion heb sylwi ar y lle amlwg a roddir i eiriau – ein geiriau ein hunain a geiriau pobl eraill. Mae ein hagwedd at eiriau yn ffenestr bwysig i gyflwr y galon; yn wir, yn amlach na dim ein geiriau sy’n datgelu pa fath bobl ydym mewn gwirionedd.

Gwrando

Gallwn rannu’r anogaeth i wrando ar eiriau pobl eraill yn ddwy:

Cyngor

Rhan o brofiad pob un ohonom yw cael rhyw syniad sy’n ymddangos yn dda iawn ar y pryd, ond wrth fwrw ati ar ein liwt ein hunain rydym yn creu pob math o lanastr neu ddiflastod. Rydym ar fai am nad ydym yn gofyn am gyngor pobl eraill – neu am beidio â gwrando ar eu cyngor – cyn mentro (22; cymharer 11:14; 20:18).

Cerydd

Gwelsom eisoes werth derbyn cerydd a dysgu oddi wrtho (e.e. 6:23), a dyna neges adnodau 31-32 eto. Rydym yn sicr o fod ar ein colled o anwybyddu’r gwersi a gawn gan bobl eraill.

Siarad

Mae gwrando doeth yn bwysig – ac felly hefyd siarad doeth:

Siarad â Duw

‘Gwrendy [Duw] ar weddi’r cyfiawn’ (29). Un o freintiau mwyaf gwerthfawr y Cristion, felly, yw siarad â Duw – defnyddio geiriau i’w addoli, mynegi ein cariad ato, diolch iddo, rhannu siom a gofid ag ef, cyflwyno ein hanghenion ein hunain ac anghenion pobl eraill iddo. Gweler Philipiaid 4:6-7.

Siarad ag eraill

Mae gan yr adnodau hyn wersi pwysig inni hefyd ynghylch siarad â phobl eraill. Er enghraifft, mae yma gyngor i fod yn amyneddgar ac ymbwyllo cyn siarad, yn enwedig lle mae temtasiwn inni gweryla (18, 28). Dangosir hefyd werth geiriau cadarnhaol (23, 26, 30) – geiriau sy’n ceisio lles pobl eraill yn lle eu tynnu i lawr a’u digalonni. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos geiriau rhieni wrth eu plant (Eff. 6:4; Col. 3:21), ond mae hefyd o bwys yn ein hymwneud â phobl yn gyffredinol. Nid heb reswm y cafodd Joseff y llysenw a gofnodir yn Actau 4:36.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF