Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 15:1-17

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 15

Diarhebion 15:1-17

‘Y MAE CALON HAPUS YN WLEDD WASTADOL’

Beth sy’n gwneud ‘calon hapus’ (13, 15)? Beth yw cyfrinach gwir lawenydd? Yn ôl y Testament Newydd, perthynas wirioneddol â Duw drwy ffydd yng Nghrist yw’r allwedd hollbwysig (Phil. 3:1; 4:4; cymharer Gal. 5:22). Cawn gipolwg ar rai agweddau ar y llawenydd hwn yn rhan gyntaf pennod 15:

Canfod

Daw llawenydd i’r credadun o wybod fod ‘llygaid yr Arglwydd ym mhob man, yn gwylio’r drwg a’r da’ (3). Mae’r ffaith fod Duw yn hollwybodol ac yn hollbresennol yn peri dychryn i’r annuwiol: nid oes dianc oddi wrth y Duw hwn, sy’n canfod meddyliau cuddiedig ei galon (11). Ond cysur anhraethol sydd yma i’r Cristion: mae Duw yn canfod, yn gwybod, yn deall y cwbl. Cyflwyna Salm 139 yr athrawiaeth hon yn rymus; gweler ymateb llawen y salmydd yn adnodau 17-18 yno.

Cerydd

Nid ydym fel arfer yn meddwl am lawenydd yn nhermau cerydd, ond mae pobl ddoeth yn deall fod cerydd priodol yn gwneud lles iddynt yn y pen draw (5). Ar y llaw arall, bydd gwrthod cerydd yn arwain at drueni a thristwch – h.y. at ddiffyg llawenydd – yn y pen draw (10, 12). Nid oes neb yn hoffi cerydd ar y pryd; ond o’i dderbyn a dysgu oddi wrtho, byddwn ar ein hennill yn ddirfawr (Heb. 12:5-13).

Cyfoeth

Yn eu ffolineb tybia llawer y bydd cyfoeth yn dod â llawenydd, ond rhaid wrth ofn yr Arglwydd a chariad i brofi llawenydd go iawn (16-17). Nid yw cyfoeth ynddo’i hun yn ddrwg, ond lle mae’n cyd-ddigwydd ag annuwioldeb mae’n arwain at drallod a blinder (6). Gweler Mathew 6:19-21.

Calon

Mae cyflwr y galon yn berthnasol iawn i wir lawenydd (13, 14, 15). Os yw’r galon yn ffôl (7), neu’n elyniaethus tuag at Dduw er gwaethaf pob sioe grefyddol allanol (8), ni fydd byth yn llawen; yn wir, mae dan gondemniad. Ond os yw Duw wedi newid y galon, a’i gwneud yn galon lân drwy waith achubol Iesu Grist, bydd hi’n ffynhonnell llawenydd o’r iawn ryw. Gweler Eseciel 36:25-30.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF