Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 14:20-35

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 14

Diarhebion 14:20-35

‘MAE OFN YR ARGLWYDD YN FFYNNON FYWIOL’

Gwelir effeithiau llesol ‘ofn yr Arglwydd’ (26, 27) ym mhob rhan o fywyd, gan gynnwys ein hagwedd at wahanol fathau o dlodi.

Tlodi 1

Yn aml caiff y tlodion eu hanwybyddu neu eu dirmygu (20); ond bydd ‘ofn yr Arglwydd’ yn peri i’r Cristion ymateb yn wahanol (21). Yn wir, drwy dosturio wrth yr anghenus mae’r Cristion yn anrhydeddu Duw, yr Un sydd wedi creu pawb (31).

Tlodi 2

Mae ‘ofn yr Arglwydd’ hefyd yn ein rhybuddio rhag y perygl yn adnod 23. Digon hawdd ‘dweud’, ond rhaid i’n geiriau arwain at ‘wneud’ ymarferol. Heb y gweithredu hwn, ‘tlodi’ o ryw fath fydd y canlyniad anochel. Nid siaradwyr na gwrandawyr yn unig rydym i fod, ond ‘gweithredwyr y gair’ (Iag. 1:22).

Tlodi 3

Ar ben hyn, bydd ‘ofn yr Arglwydd’ yn ein cadw rhag ildio i demtasiynau, e.e. colli tymer a chenfigennu (29, 30). Dangos tlodi cymeriad a wna’r rhain – ac arweiniant at dlodi perthynas ag eraill a chwerwedd ysbryd. Gweler Iago 1:19; 3:14-18.

Tlodi 4

Gall cenedl hithau fod yn dlawd. Mae’n bosibl fod ei heconomi’n ffynnu a’i dylanwad gwleidyddol yn ymestyn yn eang, ond pethau arwynebol, dros dro, yw’r rhain. Heb ‘gyfiawnder’ (34) – h.y. heb anrhydeddu Duw a’i orchmynion, heb ‘ofn yr Arglwydd’ – tlawd yw hi mewn gwirionedd. Ac yn hwyr neu’n hwyrach daw’r tlodi hwn i’r amlwg. Gweler Datguddiad 18:2-10.

Tlodi 5

Ond y tlodi gwaethaf oll yw hwnnw wyneb yn wyneb ag angau. Ni fydd cyfoeth bydol yn cyfrif dim bryd hynny. Ymddangoswn o flaen Duw heb yr holl bethau a oedd mor bwysig inni ar y ddaear. Ond mae ‘ofn yr Arglwydd’ yn cymell y Cristion i geisio gras Duw yn awr, ac mae ganddo obaith felly erbyn y dydd hwnnw (27, 32).

Myfi yn dlawd, heb feddu dim,
 Ac yntau’n rhoddi popeth im.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF