Diarhebion 14:1-19
‘DOETHINEB Y CALL’
Ffyddlondeb
Agwedd bwysig iawn ar ‘ddoethineb y call’ (8) yw bod yn ffyddlon – h.y. yn gyson, yn ddibynadwy bob amser. Dyma ran o ‘ffrwyth yr Ysbryd’ (Gal. 5:22), sef nodweddion y gwir Gristion. Un felly yw Duw ei hun (1 Cor. 1:9; 10:13; 1 Ioan 1:9). Ond da cofio hefyd y lle pwysig sydd i’n geiriau wrth fynegi’r ffyddlondeb hwn. Dyna neges adnod 5, sy’n dwyn i gof orchymyn Exodus 20:16, a cheir rhybuddion eraill yma (e.e. 3, 7) i wylio rhag y rhai nad ydynt yn ffyddlon eu geiriau.
Ffolineb
Gwelwn nifer o agweddau trist ar ffolineb yn yr adran yma:
- Mae’n gwneud niwed i fuddiannau gorau pobl (1, 3).
- Mae’n arwain at dwyllo eraill – ac at hunan-dwyll (8).
- Mae’n gwneud yn fach o euogrwydd, ac o’r pechod sy’n sail iddo (9).
- Mae’n ei fynegi ei hun mewn gwag-hyder a diffyg amynedd (16-17).
- Wrth graffu ar y pethau hyn, bydd ‘doethineb y call’ yn gwylio’n ofalus rhag syrthio i’r un fagl (7, 14, 16).
Ffordd
Bydd ‘doethineb y call’ a ffolineb y ffôl yn siŵr o ddod i’r amlwg yn eu ffordd o fyw. Mae rhodio’n gywir yn arwydd o ofni’r Arglwydd, ond mae ffordd yr annuwiol yn dangos dirmyg ato (2). Bydd y doeth yn ‘deall ei ffordd’ (8) – yn ymwybodol o bwrpas bywyd, yn cydnabod hawliau Duw arno, yn rhodio yng ngoleuni Gair Duw, yn gwybod beth yw pen draw’r ffordd hon. ‘Taith y Pererin’ yw bywyd yn ei olwg. Uchelgais personol a hunan-les, ar y llaw arall, sy’n nodweddu ffordd y ‘gwrthnysig’ annuwiol (14). Yn eu ffolineb mae pobl yn dewis ffordd o fyw sydd fel petai’n cynnig dedwyddwch iddynt; ond oherwydd nad yw Duw yn rhan ohoni mae hi’n ‘arwain i farwolaeth yn ei diwedd’ (12). Nid cyfleustra na rhwyddineb na phoblogrwydd y ffordd sy’n bwysig mewn gwirionedd, ond ei diwedd hi. Hawdd iawn yw i bobl gael eu twyllo yn hyn o beth (12:15), ond bydd ‘doethineb y call’ yn hoelio sylw ar y diwedd. Gweler Mathew 7:13-14.