Diarhebion 13:13-25
‘DEALL DA’
Dirmyg
Am fod pobl wrth natur yn feirw’n ysbrydol (Eff. 2:1) ac yn elynion i Dduw (Rhuf. 8:7), go brin fod disgwyl iddynt barchu ei Air, er mai diben y Gair yw eu goleuo a’u dysgu ynghylch materion pwysicaf bywyd. Ond ffolineb yw dirmygu cyngor llesol Duw (13; cymharer 2 Cron. 36:16). Yn lle ei anwybyddu neu’i wfftio, mae ‘deall da’ (15) yn derbyn goleuni Duw yn ei Air (Salm 119:105).
Dymuniad
Agwedd arall ar neges adnod 12 yw rhan gyntaf adnod 19, ond bydd ‘deall da’ yn dysgu gwers bwysig oddi wrth yr ailadrodd hwn. ‘Ymhyfryda yn yr Arglwydd,’ medd Salm 37:4, ‘a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.’ Os dymuniadau hunanol sydd gennym, cawn ein siomi. Anogaeth y Beibl, yn hytrach, yw inni gyflwyno ein dymuniadau i ofal Duw (Phil. 4:6). Os ydynt yn unol â’i ewyllys ef, ac yn wirioneddol er lles inni, cawn brofi’r cyflawni hwnnw sy’n ‘felys ei flas’ (19).
Daioni
Mae’r llyfr hwn yn rhoi sylw amlwg i ddaioni a drygioni – eu natur a’u gweithrediad, ynghyd â manteision y naill a pheryglon y llall. Un o’r agweddau pwysicaf ar ‘ddeall da’ yw medru gwahaniaethu rhyngddynt, ac yma cawn gyngor ymarferol i’r diben hwn. Mae daioni’n cynnwys parchu gorchymyn Duw (13), dilyn cyfarwyddyd y rhai doeth (14), gweithredu’n ddeallus yng ngoleuni’r cyfarwyddyd hwn (16), bod yn eirwir a dibynadwy (17), ymostwng i dderbyn cerydd (18), a chadw cwmni’r doethion (20). Cyhoedda adnodau 21, 22, a 25 na fydd y daioni hwn heb ei wobrwyo. Nid yw’r wobr bob amser yn amlwg ar y ddaear hon, ond mae’n sicr nad yw Duw yn ddyledwr i neb; gweler Mathew 19:27-29.
Disgyblaeth
Bydd ‘deall da’ hefyd yn ystyried o ddifrif sut i fagu plant. Nid rhoi rhwydd hynt i gosbi plant yn gorfforol ar bob cyfle posibl a wna adnod 24, ond cydnabod yn hytrach realiti ffolineb annuwiol ym mhob plentyn (cymharer 22:15). Os gellir cywiro’r plentyn drwy berswâd, gorau i gyd. Ond bydd ‘deall da’ – a gwir gariad – yn cydnabod fod rhaid wrth gosb gryfach os bydd popeth arall wedi methu.