Diarhebion 13:1-12
‘GOLEUNI’R CYFIAWN’
Gwrando
Ceir cryn bwyslais yn y llyfr hwn ar wrando – yn enwedig gwrando ar rieni duwiol a doeth (e.e. 1:8; 2:1; 3:1; 4:1; 5:1). Mae pobl ifainc yn aml am fod yn annibynnol ac yn ‘rhydd’; ond bydd gwrando ar gyngor rhieni – a’u cerydd – yn gymorth i’w cadw rhag camgymeriadau alaethus (1). Dyma wedd bwysig ar ‘Anrhydedda dy dad a’th fam’ (Ex. 20:12) – gorchymyn sydd wedi ei fwriadu er lles pawb.
Gweithio
Un peth y dylid ei feithrin mewn plant yw agwedd iach at waith. Mae i ddiogi a diwydrwydd eu canlyniadau sicr (4). Gall sawl un freuddwydio am fod yn filiwnydd dros nos drwy ennill y lotri, h.y. ‘yn ddiymdrech’, neu ‘drwy oferedd’; ond mwy boddhaol a pharhaol o lawer yw’r llwyddiant a ddaw drwy lafur ein dwylo (11), yn unol â bwriad Duw i’r ddynoliaeth o’r cychwyn (Gen. 2:15).
Goleuni
Mae gwrando a gweithio ymhlith yr elfennau sy’n gwneud bywyd y cyfiawn yn llawn goleuni (9). Crist yw goleuni’r byd (Ioan 8:12), ac mae ei oleuni ef i lewyrchu drwy bawb sy’n credu ynddo, er tystiolaeth i bobl o’u hamgylch (Math. 5:14-16), yn enwedig i’r rhai sy’n dyheu am ddianc o dywyllwch annuwioldeb a phechod.
Gwrychyn
Mae cynnen yn agwedd amlwg ar y tywyllwch hwn, ac mae ymffrostio yn ffordd amlwg o greu cynnen (10) – codi gwrychyn drwy frolio hunanol, bychanu eraill, ac ati. Nid felly y mae’r Cristion i ymddwyn; yn hytrach, mae’r goleuni ynddo i’w ddangos ei hun mewn pwyll a doethineb (10).
Gobaith
Ond gall y goleuni hwn fynd yn wannaidd ar adegau, e.e. os bydd oedi hir cyn derbyn rhywbeth y gobeithir yn eiddgar amdano (12). Mae’n digwydd yn aml fod gobaith a ffydd y Cristion yn cael eu profi. Eto i gyd, ni chaiff neb sy’n ymddiried yn Nuw ei siomi (Salm 30:5; 84:11-12). Yn wir, ryw ddydd gwireddir gobaith dyfnaf y Cristion ym mhresenoldeb goleuni’r byd ei hun (Dat. 21:23; 22:5).