Diarhebion 12:16-28
‘AR FFORDD CYFIAWNDER Y MAE BYWYD’
Dweud y gwir wrth siarad yw pwyslais amlwg yr adran hon. Dyma neges sy’n berthnasol i bob oedran a phob rhan o gymdeithas – ac i’r eglwys hefyd o ran hynny.
Y gwir
Yn syml iawn, ‘dweud y gwir’ yw’r cyngor sylfaenol (17). ‘Geiriau gwir’ (19) sydd i nodweddu pawb. Y rheswm dros hyn yw ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw (Gen. 1:26-27) – y Duw sy’n ffyddlon (1 Cor. 1:9; 10:13), yn eirwir (Rhuf. 3:4), ac yn ddigelwyddog (Tit. 1:2). Oherwydd pechod, fodd bynnag, nid ydym yn debyg i’n Creawdwr yn hyn o beth. Yn wir, un o’r ffyrdd amlycaf y mae pechod yn ei fynegi ei hun yw drwy gelwydd, twyll, a dichell. Mae’r beiau hyn yn hollol groes i natur ac ewyllys Duw. Dyna sy’n cyfrif am ddatganiad adnod 22: ‘Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr Arglwydd’ (cymharer 6:17; Dat. 22:15). Da cofio i Iesu Grist gyfeirio ato’i hun fel ‘y gwirionedd’ (Ioan 14:6).
Y gwir i gyd?
Ond wedi dweud hyn, gallwn gasglu hefyd nad oes rhaid dweud y gwir i gyd ym mhob amgylchiad. ‘Y mae’r call yn cuddio’i wybodaeth’ (23) mewn sefyllfaoedd arbennig. Gŵyr i’r dim fod amser a lle i fynegi rhai pethau, ac felly mai annoeth yw bloeddio’r cyfan dros bob man. Er enghraifft, ‘y mae’r call yn anwybyddu sarhad’ (16; Math. 5:38-39). Nid yw ymateb i sarhad drwy gythruddo (16) yn gwneud lles – yn wir, mae’n debygol o wneud pethau’n waeth. Dywedwn y gwir bob amser; ond dysgwn hefyd bwyso a mesur pa agweddau ar y gwir sy’n briodol ym mhob sefyllfa.
Y gwir mewn cariad
Dysgwn hefyd ‘ddilyn [neu ddweud] y gwir mewn cariad’ (Eff. 4:15). Gwaetha’r modd, gellir dweud y gwir gyda’r bwriad o frifo pobl eraill (18). Nid felly y mae’r Cristion i fod i siarad. Gall fod angen rhoi cerydd ar adegau, ond diben y Cristion yw ‘iacháu’ (18), ‘cynllunio heddwch’ (20), ‘gweithredu’n gywir’ yn ei eiriau (22), a dweud ‘gair caredig’ wrth y rhai anghenus a digalon (25). Mae cariad i fod yr un mor amlwg yn ein geiriau ag yn ein gweithredoedd.