Diarhebion 12:1-15
‘SAIF TŶ’R CYFIAWN YN GADARN’
Coron
Wedi’r sylw am anrhydedd gwraig yn 11:16, cyhoedda 12:4 fod gwraig ‘fedrus’ – neu ‘rinweddol’, ‘ragorol’ – yn goron i’w gŵr. Diddorol yw’r gair ‘coron’ yma. Nid yw gwraig i fod dan draed ei gŵr, yn gaethferch i weini arno. Yn hytrach, mae hi nid yn unig yn anrhydeddus ynddi hi ei hun ond hefyd yn dwyn anrhydedd i’w gŵr a’i theulu. Yn wir, awgryma ‘coron’ nad yw ei gŵr yn cyrraedd ei lawn urddas ar wahân iddi (Gen. 2:18); ond o gael gwraig felly, fe’i gwneir ef yn anrhydeddus gyfan, a bydd ef yn ei hanrhydeddu hi o’r herwydd. Gweler 31:10-12, 28. Ar y llaw arall, gofid diddiwedd yw cael gwraig ‘ddigywilydd’ (4). Mor bwysig, felly, yw bod yn weddigar a phwyllog wrth ystyried priodi. Yn y cyswllt hwn – ac yn fwy cyffredinol o ran hynny – peth gwerthfawr yw bod yn fodlon derbyn cyngor, peidio â gwrthod cerydd (1), ac ymdrechu i gael bwriadau cywir (5), yn hytrach na chael ein hudo gan harddwch arwynebol neu ein trechu gan chwantau afreolus.
Creaduriaid
Os yw gŵr a gwraig i ymddwyn â pharch y naill at y llall, mae holl greaduriaid Duw hefyd yn haeddu parch (10). Ef sydd wedi creu’r cyfan, ac nid oes hawl gennym i gamddefnyddio unrhyw ran o’i greadigaeth. (Nid yw hyn yn golygu ymatal rhag bwyta cig, gan fod Duw yn rhoi caniatâd penodol yn hyn o beth; Gen. 9:2-3.) Diddorol cofio i Grist ddysgu fod tosturi wrth anifeiliaid yn bwysicach na chadw mân ddeddfau’r Phariseaid ar gyfer y Saboth (Math. 12:9-14). Duw piau’r ddaear hon (Gen. 1:31; Salm 24:1). Ein cyfrifoldeb ni, felly, yw ei pharchu a gofalu amdani.
Cyngor
Oherwydd ein ffolineb pechadurus, ni allwn weld na deall yn glir. Yn wir, daw perygl mawr o fod yn rhy hyderus yn ein gallu tybiedig ein hunain (15). Rhaid wrth gyngor, felly – a rhaid gwrando ar y cyngor hwnnw (15). Dylai’r cyngor fod yn dduwiol ac yn gall, wrth reswm: mae ‘cynlluniau’r drygionus yn dwyllodrus’ (5). Pwysig wedyn yw troi at bobl aeddfed, bwyllog, ac ysbrydol am gyfarwyddyd. Ond pwysicach na dim yw mynd at Dduw ei hun (3:5-8).