Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 11:16-31

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 11

Diarhebion 11:16-31

‘FFYNNA’R CYFIAWN FEL DEILEN WERDD’

Harddwch

Mae Llyfr y Diarhebion yn rhoi tipyn o sylw i ferched, gan osod cryn anrhydedd arnynt (e.e. 31:10-31). Ar yr un pryd, pwysleisia nad harddwch allanol sy’n cyfrif yng ngolwg Duw. ‘Gwraig raslon’ sy’n ‘cael clod’ (16) – gwraig sy’n cael enw da nid am ei phrydferthwch corfforol ond am harddwch ei chymeriad a’i bywyd oherwydd ei bod yn ofni Duw (31:30). Ar y llaw arall, truenus yw gwraig sydd ‘heb synnwyr’, er ei phrydferthwch (22). Ar y galon, nid ar yr wyneb, y mae Duw yn edrych. Cilia tegwch corff, ond daw rhinweddau duwioldeb yn fwy gwerthfawr gyda’r blynyddoedd. Gweler 1 Timotheus 2:9-10; 1 Pedr 3:1-4.

Haelioni

Mae cryn bwyslais yn yr adran hon ar werth haelioni. Nid yw bod yn gybyddlyd yn gwneud lles i ni ein hunain yn y pen draw, er iddo roi mymryn o foddhad ar y pryd, efallai, ac yn sicr nid yw’n gwneud lles i bobl eraill (24-26). Rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu (2 Cor. 9:7). Rhoddwr hael yw Duw ei hun, yn tywallt ei ras drwy Iesu Grist ar rai annheilwng. O dderbyn ei ras yn rhad, ni all y Cristion yntau ond rhoi’n hael i eraill.

Hyder

Hyder sicr y credadun yw neges amlwg arall yr adnodau hyn. Nid oes gan yr anghredadun ddim byd i fod yn hyderus yn ei gylch: mae’n gwneud niwed mawr iddo’i hun yn y pen draw (17), angau sy’n ei ddisgwyl (19), mae’n ‘ffiaidd gan yr Arglwydd’ (20), mae’n siŵr o brofi barn Duw (21, 31), a bydd ei obaith yn diflannu a’i uchelgais yn darfod (28-29). Ond nid felly plentyn Duw. Mae duwioldeb yn dwyn lles – nid y math o lwyddiant sy’n cael ei edmygu gan y byd, ond lles ar lefel ddyfnach o lawer (16-18). Bywyd, nid angau, yw diwedd y daith (19). Mae Duw wrth ei fodd ynddo (20), ac yn ymrwymo i’w waredu ar ddydd y farn (21). Caiff ragflas o’r nef hyd yn oed ar y ddaear (30-31). Ymaith â pob digalondid, felly! ‘Ffynna’r cyfiawn fel deilen werdd’ (28). Gosodwn ein hyder ar y Duw sy’n llawn haelioni grasol.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
Diarhebion