Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarehebion 30:10-20

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 30

Diarhebion 30:10-20

RHYBUDDION A RHIFOLION

Wedi math o ragarweiniad i gyfraniad Agur yn 30:1-9, yn awr cyflwynir ei ddiarhebion.

Rhybuddion

Mae nifer o rybuddion pwysig i’w gweld yn y diarhebion hyn:

  • Yn gyntaf, dylid gwylio rhag ymyrryd mewn materion nad ydynt yn fusnes i ni (10). Mae gwas yn bennaf atebol i’w feistr ei hun, yn hytrach nag i bobl eraill.
  • Yn ail, peth gwarthus yw difrïo tad a mam (11, 17). Ceir gorchymyn Duw ynghylch perthynas â rhieni yn Ex. 20:12; gweler hefyd Ex. 21:17.
  • Yn drydydd, rhaid bod yn effro i berygl hunan-dwyll, yn enwedig mewn materion crefyddol (12). Y gwir yw na fedr pobl gael ‘eu glanhau o’u haflendid’ drwy eu hymdrechion eu hunain; yn Iesu Grist yn unig y mae’r glanhad hwn (1 Ioan 1:7-10).
  • Yn bedwerydd, rhoddir sylw i berygl balchder (13). Dyma un o themâu cyson y llyfr hwn, am fod balchder yn nodwedd mor amlwg o bobl wrth natur ond hefyd am ei fod mor atgas yng ngolwg Duw (6:16-17).
  • Yn bumed, ceir rhybudd rhag y rhai sy’n gormesu eraill, e.e. y tlawd a’r anghenus (14), yn groes i’r egwyddor i garu cymydog (Lef. 19:18; Math. 22:39).
  • Yn chweched, mae angen gwylio rhag temtasiynau rhywiol, ac yn enwedig rhag tybio nad yw pechod rhywiol o bwys bellach mewn ‘cymdeithas oddefol’ (20).

Rhifolion

Ar ryw olwg mae’r rhybuddion uchod i’w disgwyl mewn casgliad o ddiarhebion, ond yr hyn sy’n hynod am gyfraniad Agur yw’r ffaith iddo hefyd gyflwyno nifer o sylwadau craff ar fywyd yn seiliedig ar rifolion. Wedi cyfeirio at allu’r gele i sugno gwaed yn ddi-ball, enwa bedwar peth arall nad ydynt byth yn cael eu digoni (15-16). Nid oes modd cael dedwyddwch na bodlonrwydd llwyr mewn byd syrthiedig, felly, nac osgoi Sheol, sef y bedd, ar ddiwedd bywyd. Eto i gyd, mae pethau rhyfeddol i’w gweld ar y ddaear y mae Duw wedi ei chreu, gan gynnwys hynodion byd natur a dirgelwch y modd y mae perthynas yn datblygu rhwng bachgen a merch (18-19). Er ei fethiant i ddeall y rhain, ni all Agur ond sefyll yn ôl mewn syndod a pharch.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF