Lefiticus 5:14—6:7
YR OFFRWM DROS GAMWEDD A’I WERSI
Y poethoffrwm (pennod 1) oedd sail perthynas iawn â Duw. Gwaetha’r modd, mae’r ffaith fod pechod yn parhau ym mywyd y credadun yn tarfu ar y berthynas hon. Dengys Lefiticus 4:1–5:13 fod hyn yn wir hyd yn oed yn achos pechodau anfwriadol. Yn awr, cyhoedda Lefiticus 5:14–6:7 fod angen aberth yn achos pechodau mwy difrifol, sef rhai sy’n ymwneud â hawliau cyfamodol Duw neu hawliau pobl eraill.
Yr offrwm
Enwau eraill ar yr offrwm hwn oedd ‘offrwm dros euogrwydd’ neu ‘offrwm adferiad’. Petai camwedd ynglŷn ag unrhyw beth a gysegrwyd i Dduw (5:14-16) – e.e. cyflwyno anifail i’w offrymu heb sylwi fod nam arno – neu dorri ei orchmynion (5:17-19), neu wneud cam â pherson arall (6:1-7), roedd yn rhaid wrth aberth i gael maddeuant. (Nid oedd aberth ar gyfer y sawl a ddaliai ati i bechu’n fwriadol: Numeri 15:30-31; Hebreaid 10:26-31.) Fel arwydd o edifeirwch, roedd yn rhaid hefyd wrth iawndal lle byddai’n briodol. Gweler hefyd 7:1-6.
Gwersi
- Yn gyntaf, dyma rybudd i ni rhag bod yn esgeulus neu’n anystyriol ‘ynglŷn â phethau sanctaidd yr Arglwydd’ (5:15). Gweler 11:44-45.
- Yn ail, mae gwneud cam â chymydog hefyd yn bechod yn erbyn Duw (Genesis 39:9; Salm 51:4).
- Yn drydydd, rhaid wrth wir edifeirwch – gan gynnwys iawndal petai angen (6:4-5; Numeri 5:5-10; Luc 19:8) – cyn y gallwn geisio cymod â Duw (6:6-7).
- Yn bedwerydd, cynigir gobaith a thangnefedd i rywun â chydwybod dyner, e.e. y sawl sy’n ofni iddo bechu yn erbyn Duw ond heb fod yn sicr o hynny. Er nad yw’n ymwybodol o’i bechod fel y cyfryw (5:17), mae maddeuant i’w gael (5:18).
Dyma ddarlun arall o aberth cymod Iesu Grist dros bechod (Eseia 53:10; 1 Ioan 2:2; 4:10). Wrth iddo ‘offrymu un aberth dros bechodau am byth’ (Hebreaid 10:12), mae wedi ‘dileu pechod’ (Hebreaid 9:26) o bob math – ac felly’n cynnig gobaith i ni.