Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus a Numeri: Rhagarweiniad

13 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus | Numeri

RHAGARWEINIAD

Mae’n siŵr fod llyfrau Lefiticus a Numeri’n ddigon dieithr i lawer un. Ar yr olwg gyntaf, o leiaf, mae’r cynnwys yn edrych yn amherthnasol iawn i fywyd heddiw.

Ond cam gwag fyddai taflu’r llyfrau hyn i’r bin ysbwriel. Mae’n ddiddorol sylwi fod y naill a’r llall yn dechrau drwy ddatgan yn gadarn mai Duw ei hun sy’n llefaru yma. Yn wir, mae Lefiticus yn cynnwys mwy o eiriau uniongyrchol Duw nag unrhyw lyfr arall yn y Beibl. Haeddant barch am y rhesymau hyn yn unig, ond o’u darllen gwelwn hefyd fod pwrpas a gwerth arbennig iddynt.

Yn Lefiticus cawn drefniadau ar gyfer bywyd crefyddol ac ymarferol yr Israeliaid, er mwyn iddynt fod yn bobl sanctaidd i Dduw sanctaidd. Er bod y manylion yn perthyn i fywyd cenedl Israel yn yr Hen Destament, mae’r egwyddorion ynglŷn â sancteiddrwydd Duw a sancteiddrwydd ei bobl o’r pwys mwyaf ym mhob oes. A dengys y llythyr at yr Hebreaid fod rhywbeth arall yn eglur yn Lefiticus hefyd, sef darluniau gwerthfawr iawn o aberth cymod Iesu Grist a’i waith allweddol fel Archoffeiriad ffyddlon ar ran ei bobl.

Mae Numeri’n dilyn hynt a helynt yr Israeliaid wrth iddynt fynd drwy’r anialwch ar eu taith o’r Aifft i Ganaan, y wlad y mae Duw wedi ei haddo iddynt. Gwelwn yma ofal rhyfeddol Duw amdanynt er gwaethaf eu holl rwgnach a gwrthryfel, a’r gwersi pwysig sydd i ni yn y byd sydd ohoni. A dyfynnu Williams Pantycelyn,

Pererin wyf mewn anial dir,
Yn crwydro yma a thraw.

Cawn yn y llyfr hwn rybudd, anogaeth, her, esiampl, a chysur – a’r cyfan yn gymorth amhrisiadwy wrth i ni deithio drwy ‘anial dir’ y byd hwn i’r ‘Ganaan’ nefol.

Yn ôl pob tebyg ysgrifennwyd Lefiticus a Numeri yn y bymthegfed ganrif cyn geni Iesu Grist. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw fod y naill a’r llall yn llawn gwirioneddau a gwersi sy’n eithriadol o werthfawr heddiw. Ni allwn ond bod ar ein colled o anwybyddu’r llyfrau hyn.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF