Lefiticus 9:1-24
AARON YN DECHRAU AR EI WAITH
Wedi eu hordeinio (pennod 8), yn awr dyma Aaron a’i feibion yn dechrau ar eu dyletswyddau offeiriadol. Darllenwn am gyfarwyddiadau Moses i Aaron a’r Israeliaid (1-6); wedyn cawn fanylion am aberthau Aaron drosto’i hun (7-14) a thros bobl Israel (15-22). Ar ddiwedd y bennod (23-24), gwelwn fod Duw yn datguddio’i ogoniant i Moses, Aaron, a’r bobl, yn arwydd iddo eu derbyn nhw. Ar ben hynny, mae’n anfon tân i ysu’r aberthau er mwyn dangos fod ei ddigofaint yn erbyn pechod Aaron ac Israel wedi ei symud. Mae gwersi pwysig i ni ym mhob un o’r adrannau hyn:
Diwydrwydd
Ar yr wythfed dydd, yn union ar ôl seremoni’r eneinio, roedd yr offeiriaid i ddechrau ar eu gwaith (1). Nid oedd cyfle iddynt hamddena na segura, nac ymffrostio yn eu hanrhydedd gerbron eraill. Ynghlwm wrth eu braint roedd gwaith i’w gyflawni, a rhaid mynd ati ar unwaith. Dyma esiampl werthfawr i ni; gweler Rhufeiniaid 12:11.
Digofaint
Mae realiti digofaint Duw yn amlwg yma. Ni allai Aaron ymgymryd â’i waith fel archoffeiriad heb aberth i symud digofaint Duw yn erbyn ei bechod (7-14). Ac fel archoffeiriad, gwaith mawr Aaron oedd offrymu aberthau i symud digofaint Duw yn erbyn pechod pobl Israel (15-22). ‘Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol,’ medd Salm 7:11 (cyfieithiad William Morgan); cymharer Rhufeiniaid 1:18; Effesiaid 2:3. Gan fod pawb – hyd yn oed Aaron a phobl Israel – yn annuwiol wrth natur, rhaid wrth aberth digonol i ddofi’r digofaint cyfiawn a sanctaidd hwn. Yn ei farwolaeth iawnol ar y groes mae Iesu Grist wedi offrymu’r aberth perffaith (Hebreaid 10:12).
Derbyn
Derbyniodd Duw yr hyn a wnaeth Moses ac Aaron (23-24), ac ni all ond derbyn ufudd-dod cyflawn ac aberth perffaith ei Fab (Philipiaid 2:8-11). ‘A’r Tad yn gweiddi “Bodlon”/yn yr Iawn,’ medd yr emyn. Dyma unig sail hyder a llawenydd pob Cristion.