Lefiticus 8:1-36
ORDEINIO AARON A’I FEIBION YN OFFEIRIAID
Dyma hanes ordeinio Aaron a’i feibion yn offeiriaid, yn unol â’r cyfarwyddyd yn Exodus 29:1-37. Galwyd y gynulleidfa i fod yn dyst (1-4); golchwyd a gwisgwyd yr offeiriaid (6-9,13); ac eneiniwyd y tabernacl a’r archoffeiriad (10-12). Yna cyflwynwyd gwahanol offrymau: aberth dros bechod i symud pob aflendid ac amhuredd (14-17), poethoffrwm i fynegi addoliad a cheisio maddeuant (18-21), a hwrdd yr ordeiniad i gysegru’r offeiriaid i Dduw wrth iddynt arwain addoliad Israel ac offrymu aberthau drosti (22-29). Cwblhawyd yr ordeinio, a chyhoeddwyd bod cyfnod yr ordeinio i ymestyn dros saith diwrnod (30-36).
Beth sydd i’w ddysgu yma?
Crist
Yn gyntaf, dyma ddarlun eto o Iesu Grist, ein Harchoffeiriad mawr (Hebreaid 4:14). Fe’i hordeiniwyd i’r swydd hon gan y Tad (Hebreaid 3:1-2; 5:5-6), ac ymgysegrodd i’r gwaith o gyflwyno aberth iawnol, sef ef ei hun, hyd yr eithaf (Hebreaid 9:26). Yn ei achos ef nid oedd angen aberth i symud unrhyw bechod ynddo’i hun, gan ei fod yn gwbl ddi-fai (Hebreaid 7:26-28). Fel Archoffeiriad perffaith, felly, mae’n sicrhau inni gymod â Duw ac yn ein cynrychioli gerbron y Tad (Hebreaid 7:24-25).
Cristion
Yn ail, gwelwn yma ddarlun o’r Cristion – nid yn unig arweinwyr Cristnogol sy’n cael eu neilltuo i bregethu efengyl Iesu Grist ond hefyd pob Cristion unigol (1 Pedr 2:5,9). Dyma athrawiaeth ‘offeiriadaeth yr holl saint’: mae pob Cristion yn cael y fraint o agosáu at Dduw i’w addoli, gweddïo arno, ac eiriol dros eraill. Er mwyn bod yn offeiriaid rhaid inni gael ein puro drwy waed Crist (6), ein gwisgo â’r dillad priodol (7-9), sef cyfiawnder Crist, a’n cysegru’n gyfan gwbl i Dduw (23-24). Ac yn sail i’r cyfan y mae aberth – nid yr aberthau amrywiol yn achos Aaron a’i feibion, ond un aberth digonol ein Harchoffeiriad dros ei bobl i gyd. Gwnawn yn fawr o’n braint.