Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 6:8 – 7:38

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 6, 7

Lefiticus 6:8—7:38

YR OFFRYMAU A’R OFFEIRIAID

Wrth ddod i ddiwedd adran gyntaf Lefiticus, cawn ragor o fanylion am y poethoffrwm (6:8-13); y bwydoffrwm (6:14-18), gyda sylw arbennig i gysegru archoffeiriad (6:19-23); yr aberth dros bechod (6:24-30); yr offrwm dros gamwedd (7:1-10); a’r heddoffrwm (7:11-36), gan gynnwys gwneud neu gyflawni adduned a mynegi hyfrydwch yn Nuw o wirfodd calon (7:16). Ar yr addolwr a’i aberth y mae’r pwyslais yn 1:2–6:7, ond yn awr rhoddir sylw’n bennaf i ddyletswyddau’r offeiriaid, gan gynnwys y rhannau o’r aberthau y cânt eu bwyta.

Gwaith

Yr offeiriaid oedd i fod yn gyfrifol am y gwahanol offrymau, ac roeddynt yn atebol i Dduw am y modd y cyflawnent eu gwaith sanctaidd. Roedd hyd yn oed yr agweddau di-nod ar eu gwaith yn anrhydeddus am eu bod yn gwasanaethu Duw sanctaidd yn unol â’i orchmynion. Yn yr un modd, mae gan arweinwyr eglwysi heddiw waith – dysgu, bugeilio, hyfforddi, disgyblu, eiriol – ac maen nhw’n gyfrifol i Dduw am hyn i gyd. Peidiwn â bod yn rhwystr iddynt, felly. I’r gwrthwyneb: rhown bob cymorth iddynt i gyflawni eu gwaith gerbron Duw. Gweler Hebreaid 13:17.

Gofalu

Cyflwynir gwybodaeth fanwl yma am y rhannau o’r offrymau oedd i fod yn ddarpariaeth i’r offeiriaid. Eu braint oedd gwasanaethu gyda’r offrymau – ond nid oedd Duw am iddynt fod ar eu colled oherwydd hyn. Yn yr un modd, rydym heddiw i ofalu am anghenion tymhorol ein harweinwyr ysbrydol (1 Corinthiaid 9:7-11; 1 Timotheus 5:17-18).

Gorchymyn

Gorchymyn yr Arglwydd sydd yn y darn hwn (7:38), i bwysleisio mai peth sobr a difrifol yw addoli Duw sanctaidd. Dyma her inni fod o ddifri, yn gyson, ac yn selog wrth ei addoli – er clod i Dduw ei hun, ac er calondid i’n harweinwyr.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF