Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 4:1 – 5:13

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 4, 5

Lefiticus 4:1—5:13

YR ABERTH DROS BECHOD ANFWRIADOL A’I WERSI

Yng ngolwg Duw, pechod yw pechod. Ein tuedd ni yw ystyried pechod o safbwynt dynol yn unig, gan wneud yn fach ohono a’i esgusodi o ganlyniad. Gerbron Duw, fodd bynnag, pechod yw pechod – hyd yn oed, fel y dengys yr adran hon, pan nad ydym yn ymwybodol ohono fel y cyfryw.

Yr offrwm

Rhaid wrth boethoffrwm er mwyn dod i berthynas iawn â Duw yn y lle cyntaf (pennod 1), ond roedd angen aberth hefyd ar y sawl a fyddai’n syrthio wedyn i bechod anfwriadol, pwy bynnag fyddo – archoffeiriad (4:3-12), y genedl gyfan (4:13-21), arweinydd (4:22-26), neu berson cyffredin (4:27-35). Nodir achosion o bechodau anfwriadol, sef tyst yn cadw’n ddistaw, aflendid seremonïol drwy ddamwain, a thyngu llw’n ddifeddwl (5:1-4). Rhaid dangos edifeirwch drwy gyffesu’r pechod a darparu aberth; mae nodi aberthau llai costus yn dangos nad oes rhwystr i droseddwyr tlawd geisio maddeuant (5:5-13). Symud aflendid, ceisio glanhad, ac adfer perthynas gywir ac iach â Duw oedd bwriad yr aberth hwn. Gweler hefyd 6:24-30.

Gwersi

  • Yn gyntaf, mae hyd yn oed pechodau ‘dibwys’ – e.e. oherwydd gwendid dynol, anwybodaeth, neu ddiffyg gofal – yn torri perthynas â Duw. Dyma rybudd, felly, fod yn rhaid inni gymryd pechod o ddifrif. Gweler Salm 19:12-14; 26:2; 139:23-24.
  • Yn ail, wrth ddangos fod aberth yn medru clirio’r math hwn o bechod ac adfer perthynas iawn ag ef, cyhoedda Duw ei drugaredd hynod tuag at droseddwyr o bob dosbarth cymdeithasol. O gofio i Iesu Grist gael ei groeshoelio mewn cywilydd ‘tu allan’ i Jerwsalem (4:12; Hebreaid 13:11-13), gwelwn yma ddarlun eglur o’i ymostyngiad rhyfeddol a’i aberth effeithiol (Hebreaid 9:13-14) – ac addolwn ef.
  • Yn drydydd, mae pechod yn ein gwneud yn ‘aflan’ yng ngolwg Duw (5:2), ac felly’n ein cau allan o’i bresenoldeb. Ond neges ryfeddol yr efengyl yw fod modd inni dderbyn glanhad ac adferiad llwyr drwy aberth Iesu Grist (1 Ioan 1:7-9).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF