Lefiticus 3:1-17
YR HEDDOFFRWM A’I WERSI
‘Duw yr heddwch’ (Rhufeiniaid 15:33) yw Duw’r Beibl. Mae’n Dduw sy’n cymodi pechaduriaid ag ef ei hun, gan sicrhau heddwch yn lle gelyniaeth (Rhufeiniaid 5:1; 8-11). Mae hefyd yn anfon yr Ysbryd Glân i’w calonnau er mwyn dwyn tangnefedd iddynt – tangnefedd o wybod nad ydynt mwyach ‘dan gollfarn o unrhyw fath’ (Rhufeiniaid 8:1), o wybod fod Duw ar waith ynddynt (Hebreaid 13:20-21), ac o wybod eu bod yn ddiogel yn ei ddwylo hollalluog (Ioan 10:28-29).
Yr offrwm
Mae’r heddoffrwm yn ddarlun gwerthfawr o’r gwirioneddau hyn. Dyma offrwm gwirfoddol oedd yn mynegi gwerthfawrogiad o heddwch â Duw a pherthynas iach â phobl Dduw. Gallai’r addolwr ddewis cyflwyno heddoffrwm o blith gwartheg (1-5), defaid (6-11), neu eifr (12-16). Fel rhan o lawenydd yr achlysur a mynegiant o’r heddwch oedd rhyngddynt, roedd yr addolwr ac, yn ôl pob tebyg, ei deulu a’i gyfeillion, yn bwyta’r cig gyda’i gilydd yng nghwmni’r offeiriad. Cyflwynid y braster, sef y darn ‘gorau’ o’r anifail, i Dduw (16). Gweler hefyd 7:11-34.
Gwersi
- Yn gyntaf, ‘newydd da am lawenydd mawr’ yw’r efengyl (Luc 2:10-11). Ein braint, felly, yw llawenhau’n ddiolchgar yn ein Gwaredwr a’r holl fendithion a ddaw drwyddo (Philipiaid 4:4).
- Yn ail, rhaid cyflwyno’r aberth i Dduw cyn y dathlu. Hynny yw, gan fod pechod yn amharu’n ddirfawr ar y berthynas â Duw a phobl eraill, rhaid delio â’r broblem sylfaenol hon cyn y gallwn fwynhau gwir heddwch.
- Yn drydydd, mae’r heddoffrwm yn ddarlun trawiadol o Iesu Grist, sy’n sicrhau heddwch â Duw a heddwch ymhlith ei bobl (Effesiaid 2:13-14; Colosiaid 1:19-20). Cyfeiria’r heddoffrwm ein sylw hefyd at Swper yr Arglwydd, lle mae’r credadun – yng nghwmni’r eglwys – yn bwyta’r bara gan gofio’n ddiolchgar aberth Iesu drosto a dathlu’r iachawdwriaeth a ddaw drwyddo (Mathew 26:26; Ioan 6:51).