Lefiticus 27:1-34
ADDUNED A DEGWM
Mae llyfr Lefiticus wedi pwysleisio sancteiddrwydd Duw, a’r angen felly i’w bobl hwythau fod yn sanctaidd. Yr un yw’r neges yn y bennod olaf hon, sy’n rhoi sylw i addunedau (1-29) a degymau (30-34).
Addunedau
Byddai pobl weithiau’n gwneud adduned wirfoddol fel ymateb i fendith arbennig gan Dduw neu fel arwydd o’u hymgysegriad iddo. Wrth addunedu, cysegrent eu hunain neu aelod o’u teulu i wasanaeth Duw (1-8; 1 Samuel 1:11; 2:11), neu cyflwynent anifail (9-13), tŷ (14-15), a thir (16-25) i ofal yr offeiriaid. Roeddynt yn rhydd i roi arian yn lle person, neu i brynu’r anifail, tŷ, a thir yn ôl, a rhoddir manylion yma am y taliadau priodol. Nid oedd caniatâd iddynt gyflwyno’r cyntafanedig, gan fod hwnnw eisoes yn perthyn i Dduw (26-27; Exodus 13:2,11-16; 34:19-20). Felly hefyd yn achos pethau ‘diofryd’: oherwydd amgylchiadau arbennig byddai Duw’n neilltuo’r rhain i gael eu dinistrio neu eu cyflwyno i drysorfa’r cysegr (28-29; Josua 6:17).
Rhan o fwriad y bennod hon, a Numeri 30, yw gosod trefn ar addunedau. Nid oedd rheidrwydd ar neb i addunedu – ond wedi gwneud adduned gerbron Duw, rhaid ei chadw (Deuteronomium 23:21-23; Pregethwr 5:4-7). Ni ddylid addunedu ar frys neu’n anghyfrifol, felly, heb ystyried y goblygiadau (Diarhebion 20:25). Er bod geiriau Crist ym Mathew 5:33-37 yn ymwneud â llwon yn benodol, mae’n dda inni eu cadw mewn golwg yn achos addunedau hefyd.
Degymau
Roedd Israeliaid yr Hen Destament i gyflwyno degwm – degfed ran – o gynnyrch eu tir a’u hanifeiliaid i gynnal y Lefiaid a’r offeiriaid (30-33; Numeri 18). Nid yw’r Testament Newydd yn sôn am y Cristion yn rhoi degwm at waith Duw. Fodd bynnag, mae lle i gasglu y dylai’r Cristion fod yn fwy hael, gan iddo dderbyn bendithion helaethach o lawer yng Nghrist.
Gweler 1 Corinthiaid 16:2; 2 Corinthiaid 8:9; 9:6-8.