Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Bara’r Bywyd Lefiticus 26

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 26

Lefiticus 26:1-46

CANLYNIADAU UFUDD-DOD AC ANUFUDD-DOD

Mae neges y bennod hon yn amlwg iawn: o gadw’r gorchmynion a roddodd Duw iddynt fel rhan o’i gyfamod â nhw, byddai’r Israeliaid yn profi ei fendith yn helaeth, ond syrthiai melltithion arnynt pe cefnent ar Dduw a’i gyfamod. Cymharer Deuteronomium 7:12-24; 28:1-14.

Gwir grefydd

‘Myfi yw’r Arglwydd eich Duw’ (1) yw sail gwir grefydd. O ddeall y gwirionedd gwefreiddiol hwn am y Duw byw sydd mewn cyfamod â’i bobl, rhaid troi oddi wrth bob eilun a’i addoli ef yn unig (1; Exodus 20:2-6). Ac ynghlwm wrth hynny rhaid cadw’i orchmynion, gan eu hystyried nid yn faich ond yn foddion gras inni, er ein lles daearol ac ysbrydol (2; Exodus 20:8-11).

Bendith

Yr allwedd i gadw gorchmynion Duw a phrofi ei fendith yw cofio mai ef yw ein Gwaredwr (13) – Gwaredwr yr Israeliaid o gaethiwed yr Aifft, a Gwaredwr Cristnogion o gaethiwed eu pechodau (Mathew 1:21). Ymateb diolchgar y Cristion i’r waredigaeth ryfeddol hon yw dymuno ufuddhau i’r Duw trugarog a graslon hwn (Effesiaid 2:8-10). Ac yn sgil yr ufudd-dod hwn bydd Duw’n sicr o dywallt bendithion di-rif arno (3-10). Yn goron ar y cyfan, mae Duw’n addo bod yn bresennol mewn perthynas gyfamodol gyda’r rhai sy’n rhodio’n ufudd ger ei fron (11-12).

Melltith

Gwaetha’r modd, tystia hanes yr Israeliaid fod tuedd ymhlith hyd yn oed pobl Dduw i gilio oddi wrtho a diystyru’r bendithion a ddaw o’i wasanaethu’n ffyddlon. Yn rhy aml mae Duw’n gorfod dwrdio’i bobl yn lle ymhyfrydu yn eu hufudd-dod llawen. Rhywbeth i’n sobri, felly, yw ystyried y melltithion (14-39): dangosant rai o’r ffyrdd roedd Duw yn ceryddu ac yn cosbi ei blant gwrthnysig. Ond cofiwn hefyd ei fod yn barod i drugarhau wrth bawb sy’n edifarhau ac yn ymostwng o’i flaen (40-46).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF