Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 25:14-55

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 25

Lefiticus 25:14-55

Y JWBILI

Daw’r term ‘jwbili’ o’r gair am y corn hwrdd a genid ar ddechrau pob hanner canfed flwyddyn i gyhoeddi dechrau’r achlysur llawen hwn (9). Cyflwynwyd manylion sylfaenol am y jwbili yn 25:8-13, ac yma cawn ragor o gyfarwyddiadau. Rhoddir sylw penodol i agwedd y prynwr a’r gwerthwr yn achos tir (14-17,23-28) a thai (29-34) yng ngoleuni’r jwbili. Roedd yr Israeliaid i dosturio wrth eu cydwladwyr anghenus bob amser (35-38). Fodd bynnag, i’r sawl oedd, oherwydd ei dlodi, wedi gorfod gwerthu ei lafur i Israeliad arall (39-46) neu i rywun estron o fewn Israel (47-55), roedd y jwbili’n gyfle gwych iddo gael ei ryddhau. Mae’r manylion am y jwbili’n hynod ddiddorol, ond mae gwersi i ni hefyd:

  • Yn gyntaf, mae yma egwyddor gyffredinol ynghylch ein hagwedd at bobl eraill, ac yn enwedig at Gristnogion eraill. Ergyd adnodau 36-37 yw nid gwahardd llog fel y cyfryw ond dysgu y dylai pobl Dduw helpu ei gilydd heb ddisgwyl tâl (35). ‘Peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd, ond ofnwch eich Duw’ (17). Y ffordd orau o sicrhau agwedd gywir at eraill yw drwy ofni Duw yn ein calon. Cymharer 1 Pedr 2:17.
  • Yn ail, dysgwn gadw gafael llac ar eiddo’r byd hwn. Nid oedd gan neb hawl i brynu na gwerthu’n barhaol: ym mlwyddyn y jwbili roedd yn rhaid gollwng tiroedd a gweision yn rhydd
    (23-24,39-41). Dyma her i ni yn ein hoes faterol, sydd wedi gwneud eilun o arian ac eiddo. Yn lle chwennych y pethau hyn, mae pobl Dduw i ymddiried ynddo ef (18-22). Cymharer Job 1:21.
  • Yn olaf, mae’r jwbili’n ddarlun hyfryd o iachawdwriaeth y Cristion. Yng Nghrist mae’r utgorn wedi canu i gyhoeddi rhyddid i rai a oedd yn weision i bechod. Ef yw’r ‘perthynas agosaf’ sy’n tosturio wrth bechaduriaid tlawd drwy roi’r taliad priodol drostynt (25; Marc 10:45). Drwyddo ef caiff y Cristion fwynhau ‘treftadaeth ei hynafiaid’ (41), sef perthynas agos â Duw a’r holl fendithion sy’n dilyn. Ynddo ef mae’r gwir jwbili ysbrydol wedi cyrraedd, er mawr lawenydd i’w bobl (Philipiaid 4:4).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF