Lefiticus 25:1-13
Y FLWYDDYN SABOTHOL
Mae dwy ran i’r adran hon, sef Saboth y seithfed flwyddyn (1-7) a’r jiwbili bob hanner can mlynedd (8-13). Er nad yw’r ordinhadau hyn mewn grym heddiw, maen nhw’n llawn gwersi ysbrydol. Gweler hefyd Deuteronomium 15:1-11.
Saboth y seithfed flwyddyn
- Yn gyntaf, un o ddibenion Saboth y seithfed flwyddyn oedd dysgu’r bobl i ymddiried yn Nuw. Gan nad oeddynt i hau na medi, roedd yn rhaid iddynt ddibynnu ar Dduw am eu bwyd yn ystod y flwyddyn honno. Mae Duw’n addo sicrhau digon o fwyd i’w cynnal (18-21) – ond rhaid iddynt ymddiried ynddo. Mae’r Cristion i gredu Duw a phwyso arno’n gyson wrth fyw er clod iddo o ddydd i ddydd. Weithiau, fodd bynnag, mae Duw yn ein gosod mewn sefyllfa lle nad oes dim arall i’w wneud ond ymostwng yn ufudd iddo ac ymddiried yn llwyr ynddo (Diarhebion 3:5-6).
- Yn ail, roedd y Saboth hwn yn dysgu’r bobl i ofalu am ei gilydd yn hytrach na bod yn hunanol (6-7). Yn ôl Exodus 23:10-11, dyma gyfle i’r tlodion a’ranifeiliaid gwyllt ‘gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill’. Gweler egwyddor Iago 1:27.
- Yn drydydd, roedd Saboth y seithfed flwyddyn yn tanlinellu egwyddor gorffwys, sef ystyr y gair ‘Saboth’. Mae’r gorffwys yn gwneud lles i’r pridd; ond mae hefyd yn ddarlun o’r orffwysfa dragwyddol yn y nefoedd, pan gaiff y Cristion orffwys oddi wrth bob llafur a lludded ar y ddaear yng nghwmni ei Waredwr (Hebreaid 4:9-11).
Y jwbili
Yn y bôn yr un arwyddocâd oedd i’r jwbili ag i Saboth y seithfed flwyddyn (cymharer adnodau 4-5 â 11-12). Fodd bynnag, ar y gorffwys roedd y pwyslais yn achos y seithfed flwyddyn, ond gyda’r jwbili y llawenhau oedd yn cael y sylw. Elfen amlwg yn y llawenhau oedd rhyddhau’r rhai oedd wedi gorfod gwerthu eu llafur i glirio’u dyledion, ynghyd ag adfer eu tir iddynt er mwyn iddynt fyw eto fel teulu ar dir eu hynafiaid (10,13). Dyma ddarlun gwerthfawr o’r bendithion rhyfeddol a ddaw drwy’r Meseia i’r rhai sydd mewn caethiwed a dyled ysbrydol (Eseia 61:1-3; Luc 4:18-21).