Lefiticus 24:10-23
CABLEDD A CHOSB
Cyfarwyddyd Duw sanctaidd ynghylch sancteiddrwydd bywyd crefyddol ac ymarferol cenedl Israel yw’r elfen bennaf yn Lefiticus. Fodd bynnag, mewn dau achos – 10:1-3 ac yma yn 24:10-23 – cofnodir hanes rhai a fynnodd fynd yn groes i drefn Duw. Er eu holl freintiau, ‘nid yw pawb sydd olinach Israel yn wir Israel’ o ran perthynas iach a dilys â Duw (Rhufeiniaid 9:6).
Cabledd
Cawn nifer o wersi yn yr achos o gabledd yng ngwersyll yr Israeliaid (10-12):
- Yn gyntaf, mae cabledd yn bechod difrifol iawn. Mae ‘enw’ Duw yn sefyll dros sancteiddrwyd ei natur, ei briodoleddau, a’i ffyrdd. Cabledd yw nid yn unig y defnydd o enw Duw fel rheg ond hefyd pob peth sy’n dangos diffyg parch at Dduw. Dengys adnodau 13-16 pa mor ddifrifol yw cabledd yng ngolwg Duw. Dyma rybudd felly i ni, o ran ein geiriau’n benodol a’n hagwedd yn gyffredinol. Cofiwn y gorchymyn yn Exodus 20:7.
- Yn ail, gwelwn yma ganlyniadau cynnen a dadl (10). Yng ngoleuni hyn, da o beth yw cofio Rhufeiniaid 12:18-21.
- Yn drydydd, dylid nodi mai mab i Eifftiwr a gwraig o Israel oedd y cablwr (10). Nid oedd yr Israeliaid yn ddi-fai; ond roedd priodi rhai nad oeddynt yn addoli’r gwir Dduw yn eu gwneud yn fwy agored i demtasiwn. Gweler Deuteronomium 7:1-4, ynghyd â 2 Corinthiaid 6:14-16 am y wers i ni heddiw.
Cosb
Rhaid pwysleisio mai deddfau i genedl Israel sydd yn Lefiticus, nid deddfau i bawb drwy’r byd. Serch hynny, mae’r egwyddor sylfaenol yn adnodau 17-22 yn sail werthfawr i gyfraith gwlad yn gyffredinol: rhaid i bob cosb gyfateb i natur y trosedd. Mae angen yr egwyddor hon er mwyn sicrhau cyfiawnder mewn cymdeithas. Ar yr un pryd, cyhoedda Iesu Grist fod egwyddor wahanol i lywio agwedd bersonol ei ddilynwyr ef, sef Mathew 5:38-42.