Lefiticus 24:1-9
GOLEUNI A BARA
Cyflwynwyd manylion am y canhwyllbren a’i lampau eisoes yn Exodus 25:31-40; 27:20-21, ac am y bara gosod yn Exodus 25:23-30.
Cyfeirir atynt yma eto i atgoffa’r Israeliaid am eu cyfrifoldeb i gynnal a pharchu’r gweithgareddau mwy cyson sy’n ymwneud â’r tabernacl yn ogystal â chadw’r gwyliau crefyddol arbennig (pennod 23). Ond mae ynddynt hefyd wersi i ni heddiw.
Goleuni
- Yn gyntaf, mae’r lampau (1-4) sy’n rhan o’r canhwyllbren yn tystio i Dduw fel Un sy’n oleuni ynddo’i hun (1 Ioan 1:5) ac yn oleuni i’w bobl (Salm 27:1).
- Yn ail, maen nhw’n ddarlun o Iesu Grist, ‘goleuni’r byd’ (Ioan 8:12), goleuni nad yw byth yn diffodd (2).
- Yn drydydd, mae’r cyfrifoldeb ar y bobl i ddod ag olew ar gyfer y lampau, a’r cyfrifoldeb ar Aaron i’w cadw ynghynn, yn ein hatgoffa am ein cyfrifoldeb ninnau. Mae’r Cristion i fod yn oleuni yng nghanol tywyllwch annuwiol y byd (Mathew 5:14-16), gan dystio i oleuni’r efengyl yn Iesu Grist (2 Corinthiaid 4:4-6).
Bara
Fel y lampau, mae’r bara hefyd yn symbol o bresenoldeb Duw gyda’i bobl. Mae’r deuddeg torth (5), sy’n cynrychioli deuddeg llwyth Israel, yn tystio i ofal cyson Duw am bob un ohonynt. Yn wir, mae’r bara’n arwydd o’r ‘cyfamod tragwyddol’ (8), sy’n cynnwys ei ofal cyfamodol am ei bobl. Wrth barchu gorchymyn Duw ynghylch gosod y bara’n gyson yn y tabernacl, mae Israel yn mynegi ei diolch a’i llawenydd oherwydd y cyfamod hwn – ac yn gosod esiampl werthfawr i ni yn hyn o beth.
Ond mae’r bara hefyd yn ddarlun o Iesu Grist, ‘bara’r bywyd’ (Ioan 6:35). Ynddo ef mae’r enaid sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder ac am berthynas agos â Duw yn cael ei ddigoni’n llawn (Mathew 5:6). Ef yn unig sy’n medru rhoi gwir foddhad a bywyd gwerth ei fyw (Ioan 6:51; 10:10). ‘Ceisiwch, ac fe gewch’ (Mathew 7:7).