Lefiticus 23:9-44
Y GWYLIAU CREFYDDOL ERAILL
Diben y gwyliau crefyddol oedd annog pobl Israel i addoli Duw a chydnabod ei ddaioni tuag atynt. Mae i bob un ei gwersi i’r Cristion heddiw.
Blaenffrwyth y cynhaeaf
Nid oedd yr Israeliaid i fwyta dim o’r cynhaeaf haidd hyd nes yr offrymid y rhan briodol i Dduw i ddiolch am ei ofal (9-14). Dylid cydnabod daioni Duw ym mhob peth, a’i anrhydeddu ef â’r arian a’r eiddo y mae wedi eu rhoi i ni (Diarhebion 3:9).
Gŵyl y Cynhaeaf
Enwau eraill ar hon yw gŵyl yr Wythnosau a gŵyl y Pentecost. Ei phwrpas oedd diolch i Dduw am ddechreuadau cynhaeaf yr ŷd (15-22). Tywalltwyd yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost (Actau 2:1-4), yn arwydd o ‘gynhaeaf’ ysbrydol byd-eang.
Gŵyl yr Utgyrn
Wedi medi’r cynhaeaf, cenid utgyrn i gyhoeddi diwrnod o orffwys, addoli, a diolch (23-25). Roedd Israel i gydnabod daioni Duw nid yn unig wrth dderbyn arwyddion cyntaf y cynhaeaf – drwy’r ddwy ŵyl uchod – ond hefyd ar y diwedd. ‘Boed fy mywyd oll yn ddiolch,’ medd Pantycelyn; cymharer Luc 17:11-19.
Dydd y Cymod
Yma pwysleisir bod y bobl i ymddarostwng mewn galar edifeiriol am eu pechodau ar Ddydd y Cymod (26-32). Gweler Salm 51:17; am Ddydd y Cymod, gweler pennod 16.
Gŵyl y Pebyll
Cynhelid gŵyl y Pebyll, neu ŵyl y Cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn amaethyddol, i ddiolch i Dduw am y cnydau a gasglwyd, ac am ddwyn Israel drwy’r anialwch i Ganaan ffrwythlon (33-44). Mae’n ddarlun o Dduw yn cynnull holl bobl Crist ynghyd yn niwedd amser (Datguddiad 14:14-20), wedi eu dwyn yn ddiogel drwy’r byd i’r nef.