Lefiticus 23:1-8
Y SABOTH A’R PASG
Yma ym mhennod 23 cawn fanylion am y gwahanol wyliau sydd i fod yn rhan mor bwysig o fywyd crefyddol Israel. Rhown sylw y tro hwn i ddwy ohonynt, sef y Saboth a’r Pasg (ynghyd â gŵyl y Bara Croyw).
Y Saboth
Rhoddodd Duw orchymyn eglur ynghylch y Saboth yn Exodus 20:8-11, ond mae egwyddor y Saboth yn mynd yn ôl ymhellach. Fel un o ordinhadau’r creu (Genesis 2:2-3), mae’n berthnasol nid yn unig i genedl Israel ond hefyd i bawb ym mhobman.
Mae dwy wedd i’r Saboth (3). Yn negyddol, ni ddylid gweithio ar y dydd hwn. Mae’n bwysig gweithio’n ddiwyd weddill yr wythnos, ond ar wahân i weithredoedd angenrheidiol a gweithredoedd o drugaredd (e.e., Luc 13:14-16; 14:5), ‘nid ydych i wneud unrhyw waith’ ar y Saboth. Yn gadarnhaol, ‘Saboth i’r Arglwydd ydyw’, diwrnod sy’n gyfle i orffwys oddi wrth waith arferol ond hefyd i ymwneud â phethau Duw – addoli, gweddïo, darllen Gair Duw a llyfrau buddiol eraill, mwynhau cymdeithas â phobl Dduw, ac ati. I lawer un, mae’r Saboth yn flinder; ond i’r Cristion mae’n hyfrydwch i’w drysori fel uchafbwynt yr wythnos. Gweler Eseia 58:13-14.
Y Pasg
Coffáu achubiaeth Israel o’r Aifft oedd diben y Pasg a’r Bara Croyw (4-8; Exodus 12). Yn wahanol i’r Saboth, gwyliau i genedl Israel yn unig oedd y rhain, ond mae ganddynt serch hynny wersi i ni. Mae’r waredigaeth a ddaeth drwy ladd oen y Pasg yn ddarlun byw o’r iachawdwriaeth a ddaw drwy farw Iesu Grist, Oen Duw, adeg y Pasg (Ioan 1:29; 1 Corinthiaid 5:7). Yn wir, mae’r Pasg ei hun yn gysgod o Swper yr Arglwydd (Marc 14:22-26;
1 Corinthiaid 11:23-26). Mae gŵyl y Bara Croyw wedyn yn coffáu ymadael â’r Aifft ar frys, gan gefnu am byth ar gaethiwed a gormes y wlad honno. Yn yr un modd mae’r sawl sy’n llawenhau yn Iesu Grist fel Gwaredwr i droi cefn yn llwyr ar ei hen ffyrdd pechadurus a byw yn awr i Dduw (1 Corinthiaid 5:6-8).