Lefiticus 22:1-33
‘PARCHU’R OFFRYMAU SANCTAIDD’
Pobl freintiedig yn Israel oedd yr offeiriaid, ond nid oedd eu statws arbennig i fod yn esgus dros ddifaterwch na phenrhyddid. Roedd yn ddyletswydd arnynt i ‘barchu’r offrymau sanctaidd … rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd’ (2). O ganlyniad, roedd yn bwysig iddynt osgoi pob aflendid seremonïol (3-9). Er bod ganddynt hawl i fwyta cig y rhan fwyaf o’r offrymau, gosodwyd rheolau i sicrhau na châi’r fraint hon ei bychanu drwy ei chynnig i rai anghymwys (10-16). Roedd yn rhaid iddynt wylio rhag offrymu anifeiliaid annerbyniol (17-25); er bod anifeiliaid i’w haberthu, roedd hefyd yn bwysig eu parchu (26-28). Yn hyn i gyd, ‘Peidiwch â halogi fy enw sanctaidd’; roedd Duw wedi gwaredu Israel ac mewn perthynas gyfamodol â hi, ac felly roedd yn disgwyl i’r offeiriaid fynegi eu parch ato drwy ufuddhau i’w orchmynion (29-33).
Dyma rai gwersi gwerthfawr yn y bennod hon:
- Yn gyntaf, roedd yn rhaid i’r offeiriaid gymryd gofal mawr am fod yr offrymau a gyflwynid i Dduw yn sanctaidd (2,3,4,6,7,10,12,14,15). Yn y bôn roeddynt yn sanctaidd am eu bod yn cael eu cysegru i Dduw (2,3). Os oedd offrwm anifail yn sanctaidd, cymaint mwy aberth Iesu Grist, Mab Duw. Gweler Hebreaid 9:13-14.
- Yn ail, os oedd yr offeiriaid i gymryd y fath ofal yn achos yr offrymau, rhaid i ni hefyd fod o ddifrif yn ein hymwneud â phethau Duw. Mae perygl gwirioneddol ymdrin â gwaith Duw mewn ffordd ysgafn a di-hid, neu mewn dull sy’n mynd yn groes i’w Air, neu gyda chymhellion annheilwng. Cofiwn yr hyn a ddigwyddodd yn 10:1-3, ac egwyddor bwysig 1 Thesaloniaid 2:12.
- Yn drydydd, mae’r pwyslais ar offrymu aberth derbyniol yn tanlinellu pa mor addas ym mhob ffordd yw aberth Iesu Grist (1 Pedr 1:18-19). Ond mae hefyd yn berthnasol i’r Cristion: os ydym yn proffesu ffydd yng Nghrist, rydym i’n cysegru ein hunain yn ‘aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw’ (Rhufeiniaid 12:1).