Lefiticus 21:1-24
‘NID YW OFFEIRIAD I’W HALOGI EI HUN’
Gan fod Israel yn sanctaidd i Dduw, roedd cyfrifoldeb arbennig ar offeiriaid y genedl (1-9) – ac yn fwy fyth ar yr archoffeiriad (10-15) – i fod yn sanctaidd. Nid yw pob un o’r pethau sy’n cael eu gwahardd iddynt yn y bennod hon yn ddrwg ynddo’i hun, ond roedd yn rhaid i’r offeiriaid fynd allan o’u ffordd i fod yn rhydd oddi wrth bob arlliw o unrhyw beth amhriodol neu anweddaidd. Dyna pam roedd y sawl â nam corfforol yn cael ei wahardd rhag offrymu aberthau (16-24). Nid sarhad ar berson felly sydd yma, ond arwydd gweledig: gan fod yr aberth i fod yn ddi-nam (e.e. 1:3), rhaid i’r sawl oedd yn ei offrymu fod yn amlwg ddi-nam hefyd.
Yr Archoffeiriad mawr
Wrth bwysleisio fod offeiriad ac archoffeiriad i fod yn ddiargyhoedd eu cymeriad a’u hymarweddiad, cyflwyna’r bennod ddarlun gwerthfawr o Iesu Grist, Archoffeiriad mawr ei bobl. Dyma Un sy’n hollol bur a di-nam nid yn unig fel aberth (Hebreaid 9:14; 1 Pedr 1:19) ond hefyd fel offeiriad (Hebreaid 7:26-28). Gan hynny mae ei waith fel Archoffeiriad – yn cyflwyno aberth, sef ef ei hun, i symud digofaint Duw yn erbyn pechod, ac yn gweddïo dros ei bobl – yn gwbl dderbyniol gan Dduw ac yn cyrraedd ei nod hyd yr eithaf. Mae’r fath Archoffeiriad yn deilwng o’n mawl i gyd.
Yr arweinydd eglwysig
Yr offeiriaid oedd arweinwyr ysbrydol Israel. Os oedd angen iddynt fod yn bur eu cymeriad a’u hymddygiad, felly hefyd arweinwyr eglwys Crist. Rhaid i fywyd y rhain fod uwchlaw pob cyhuddiad a beirniadaeth, er mwyn iddynt fod yn gymeradwy gerbron Duw a gosod esiampl dda i’w praidd. Gweler 1 Timotheus 3:1-13; 4:12.
Y Cristion
Gan fod pob Cristion yn offeiriad i Dduw (1 Pedr 2:5,9), mae gan y bennod hon wers a her o bwys mawr i ni. Rhaid i fywyd y Cristion unigol fod mor bur â phosibl, i blesio Duw a dangos realiti ei broffes o ffydd yn Iesu Grist (Colosiaid 1:10).