Lefiticus 20:1-27
PECHODAU A’U COSBAU
Pobl Dduw oedd yr Israeliaid. Gan fod Duw ei hun yn sanctaidd, roedd y genedl hithau i fod yn sanctaidd ac i amlygu’r sancteiddrwydd hwn yn ymarferol (7-8,26; 11:44-47; 19:2; cymharer 1 Pedr 1:15-16). Yn y bennod hon rhoddir sylw arbennig i’r angen i wylio rhag pechodau crefyddol a phechodau rhywiol, gyda rhybudd hefyd rhag torri’r pumed gorchymyn (9; Exodus 20:12). Cofnodir cosbau difrifol yn achos y rhai sy’n pechu’n rhyfygus yn erbyn Duw a’i orchmynion. Rhaid pwysleisio eto mai deddfau a chosbau i genedl Israel sydd yn y bennod hon; serch hynny, gwelwn yma fynegiant o safonau Duw a difrifoldeb pechod sy’n berthnasol i bawb. Ond ychwanegir hefyd y fendith a fydd i’r rhai sy’n cadw gorchmynion Duw (22-26).
Pechodau crefyddol
Cyfeiriwyd eisoes at Moloch, duw’r Ammoniaid, yn 18:21, ac yn awr seinir rhybudd pellach rhag ei addoli ac aberthu plant iddo (2-5). Rhyfedd meddwl y gallai Israel ddewis y ‘duw’ hwn yn lle’r Duw a oedd wedi ei gwaredu o gaethiwed a gormes yr Aifft ac wedi addo ei bendithio mor helaeth (24) – ond dyna’r hyn a ddigwyddodd (2 Brenhinoedd 16:3). A rhyfedd meddwl y gallai Israel droi oddi wrth y Duw hollalluog a hollwybodol at ddewiniaid a swynwyr (6,27) – ond digwyddodd hyn hefyd (2 Brenhinoedd 21:6). Mae pechodau crefyddol – gan gynnwys eilunod o bob math – gyda ni o hyd. Mae’n ofynnol felly i’r rhai sy’n proffesu bod yn bobl i Dduw wylio rhag pechu yn ei erbyn drwy fynd ar ôl duwiau eraill. Gweler 1 Ioan 5:21.
Pechodau rhywiol
Os eilunaddoliaeth o ryw fath yw un o’r pechodau mwyaf pwerus o hyd, felly hefyd troseddau rhywiol. Cyhoeddwyd gwaharddiadau rhag y rhain yn 18:6-23; cawn rybuddion pellach yma (10-21; gweler hefyd Lyfr y Diarhebion; 1 Thesaloniaid 4:3-8). Dyma gydnabod, felly, rym y greddfau rhywiol a’r perygl enbyd o roi rhwydd hynt iddynt. Mewn cymdeithas sydd wedi gorddyrchafu a llygru’r greddfau hyn, rhaid inni gymryd rhybuddion Gair Duw o ddifrif. Gweler Hebreaid 13:4.