Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 2

13 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 2

Lefiticus 2:1-16

Y BWYDOFFRWM A’I WERSI

Gwelwn ddau fath o offrymau yn yr Hen Destament, sef rhai sy’n gofyn am aberthu anifail a rhai di-waed. Roedd y naill yn arwydd o gymod â Duw wrth i’w ddigofaint gael ei dywallt ar yr anifail yn hytrach nag ar yr un sy’n cyflwyno’r aberth, a’r llall yn mynegi diolch ac ymgysegriad i Dduw. Mae’n arwyddocaol mai’r poethoffrwm sy’n cael sylw ym mhennod 1: rhaid wrth aberth iawnol i sicrhau cymod â Duw yn gyntaf oll. Yn sgil yr aberth hwn, mae galwad ym mhennod 2 i’r rhai sydd bellach mewn cymod â Duw i gydnabod ei ddaioni ac ymroi iddo. Mae’r drefn hon – cyfiawnhad, i’w ddilyn yn ddi-ffael gan sancteiddhad – yn eithriadol bwysig.

Yr offrwm

Gwelwn yma fanylion am y bwydoffrwm, sef rhodd wirfoddol sy’n mynegi diolch am ddaioni Duw, hyder ynddo, ac ymgysegriad iddo. Roedd i’w gyflwyno ar ffurf blawd amrwd (1-3) neu wedi ei goginio (4-10), gyda dyrnaid i’w losgi ar yr allor a’r gweddill i’w roi i’r offeiriaid. Ychwanegir manylion am bethau i’w hepgor a’u cynnwys, ac am fwydoffrwm o flaenffrwyth y cynhaeaf (11-16). Yn ogystal, roedd bwydoffrwm i’w gyflwyno gyda phoethoffrwm neu heddoffrwm gwirfoddol (Numeri 15:1-13), a hefyd wrth i’r offeiriaid aberthu poethoffrymau dyddiol dros Israel (Exodus 29:38-42; Numeri 28:1-8). Gweler hefyd 6:14-23.

Gwersi

  • Yn gyntaf, wrth roi bwydoffrwm i Dduw o’r bwyd roedd yn ei ddarparu iddynt, roedd yr Israeliaid yn cydnabod fod pob peth yn dod oddi wrtho, a’u bod yn llwyr ddibynnol arno am eu bywyd a’u cynhaliaeth (Actau 14:15-17; 17:28). Ein braint ninnau yw mynegi diolch i Dduw a hybu ei waith drwy roi’n hael o’r arian a’r eiddo yr ydym wedi eu derbyn ganddo (2 Corinthiaid 9:7-8).
  • Yn ail, roedd yr offrwm i fod yn bur (11), heb ychwanegion ar wahân i halen (13). Dyma ddarlun o gymhellion glân ac ymddygiad sanctaidd y Cristion gerbron Duw. Nid oes lle i fod i ragrith (Luc 12:1) na phechod (Rhufeiniaid 6:1-2) yn ein bywyd.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF