Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 19

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 19

Lefiticus 19:1-37

SANCTEIDDRWYDD YMARFEROL

Mae’n well i mi gyfraith dy enau
Na miloedd o arian ac aur

medd Morgan Rhys yr emynydd – gan aralleirio Salm 119:72 – ac yn y bennod hon gwelwn mor dda a llesol yw Cyfraith Duw mewn gwirionedd (Rhufeiniaid 7:12). Bwriad y Gyfraith yn Lefiticus oedd annog Israel i fod yn sanctaidd. Gan fod Duw ei hun yn sanctaidd, rhaid i Israel hithau ymroi i sancteiddrwydd ymarferol yn ei bywyd fel cenedl (2; 11:44-45). Felly hefyd y Cristion (1 Pedr 1:15-16): mae wedi profi gras achubol Duw (36), ac yn awr mae am fod yn debyg i’r Un sydd wedi trugarhau wrtho. Yn wir, dyma faen prawf i realiti ein ffydd: os honnwn ein bod mewn perthynas â Duw drwy Iesu Grist, ymdrechu i fyw’n sanctaidd sy’n tystio i ddilysrwydd y broffes hon (Iago 2:14-17).

Yn y bennod hon cawn ddeddfau sy’n manylu ar rai o’r Deg Gorchymyn (Exodus 20:1-17). Down ar draws yr ymadroddion ‘Myfi yw’r Arglwydd’ a ‘Myfi yw’r Arglwydd eich Duw’ yn aml yma, i’n hatgoffa fod pob rhan o fywyd o dan arglwyddiaeth Duw. Nid oes lle i drafod pob gorchymyn yn fanwl, ond mae nifer o themâu’n hawlio sylw:

  • Yn gyntaf, dylem dosturio wrth eraill a cheisio eu lles – yn enwedig yr anghenus, e.e. rhai tlawd, dieithriaid, rhai anabl, merched, a rhai hŷn.
  • Yn ail, dylem barchu byd natur (23-25). Crëwyd y byd hwn gan Dduw; mae’r ddynoliaeth i fod i’w stiwardio’n ofalus (Genesis 1:28) gan gynnwys peidio ag ymyrryd â’r ffiniau naturiol sy’n rhan o’r greadigaeth (19).
  • Yn drydydd, am eu bod yn sanctaidd i Dduw, dylai ei bobl fod yn wahanol i eraill nad ydynt yn ei addoli. Dyna ergyd sylfaenol y gorchmynion i gyd; ond mae’r egwyddor hon i’w gweld yn glir yn adnodau 27-28, sy’n gwahardd pobl Dduw rhag dilyn ffyrdd paganaidd o fynegi galar (Deuteronomium 14:1).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF