Lefiticus 18:1-30
MOESOLDEB RHYWIOL
Deddfau seremonïol yn bennaf sydd yn rhan gyntaf Lefiticus – deddfau sy’n llawn arwyddocâd ysbrydol ond sydd bellach wedi eu cyflawni’n derfynol ym mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. Nid ydynt yn dal mewn grym, felly. Yn y bennod hon a’r penodau sy’n dilyn, fodd bynnag, cawn egwyddorion sydd i lywio ein hymddygiad ymarferol yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae’n wir i’r gorchmynion gael eu cyflwyno i Israel fel cenedl mewn perthynas arbennig â Duw; o ganlyniad, ni ellir trawsblannu pob manylyn – y cosbau, er enghraifft – i genhedloedd seciwlar heddiw. Serch hynny, mae’r rhybuddion a’r anogaethau yn y penodau hyn yn berthnasol iawn o hyd.
Chwiwiau annuwiol
Cawn rybudd cyffredinol i ddechrau: nid yw pobl Dduw i ddilyn chwiwiau annuwiol y byd (3). Yn wir, mae ffordd y byd yn atgas gan Dduw, ac yn sicr o brofi barn ddwyfol yng nghyflawnder yr amser (24-30). Ufuddhau i gyfreithiau Duw a chadw ei
ddeddfau – dyna ddyletswydd (a hyfrydwch) ei bobl (4-5). Drwy drefn yr aberthau a Dydd y Cymod, mae’r Israeliaid wedi profi gras Duw. Yn awr mae eu hufudd-dod parod a llawen i fod i ddangos realiti’r gras hwnnw ar waith yn eu bywydau. Mae ymroi i chwiwiau annuwiol ar draul ufudd-dod, ar y llaw arall, yn arwydd o ddiffyg gwir fywyd ysbrydol (5; Rhufeiniaid 10:5; Galatiaid 3:12).
Chwantau aflan
Ymwneud â chwantau ac arferion aflan ac annaturiol a wna adnodau 6-23 – gan gynnwys aberthu plant i Moloch, duw’r Ammoniaid, drwy eu llosgi’n fyw (21; 2 Brenhinoedd 16:3; 21:6). Gwaetha’r modd, mae nifer o’r pechodau a enwir yma bellach yn cael eu derbyn fel pethau digon naturiol gan ein cymdeithas heddiw (e.e. 20,22). Ond er bod adnodau 24-30 yn uniongyrchol berthnasol i genedl Israel, dangosant yn glir beth yw agwedd Duw at y ‘pethau ffiaidd hyn’ (26,27,29). Dyma rybudd eglur a difrifol, felly, i bob un sy’n meiddio herio Duw a’i orchmynion. Gweler Galatiaid 6:7.