Lefiticus 17:1-16
RHYBUDDION
Canlyniad y maddeuant sy’n dod i Israel drwy Ddydd y Cymod (pennod 16) yw bywyd o ufudd-dod llawen i Dduw. Yn y bennod hon a’r rhai sy’n dilyn, felly, gwelwn orchmynion amrywiol yn ymwneud â sancteiddrwydd ymarferol y genedl.
Gau addoli
Mynd i’r afael â pheryglon gau addoli a wna rhan gyntaf y bennod (1-9). Ceir awgrym yma i rai o’r Israeliaid addoli ‘gafr-ddelwau’ (7) – eilunod ar ffurf geifr, mae’n debyg – pan oeddynt yn yr Aifft (Josua 24:14; Eseciel 20:7-8). Bwriad yr adnodau hyn, felly, yw rhybuddio’r genedl rhag ildio i’r temtasiwn hwn drwy sicrhau fod yr aberthau i gyd yn dod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod (5). Hynny yw, nid oedd gan yr Israeliaid hawl i gyflwyno’u haberthau’n annibynnol ar yr offeiriad, gan y byddai hyn yn agor y drws i bob math o weithgareddau a fyddai’n groes i Air Duw. Dyma rybudd rhag gau addoli o bob math, ond galwad hefyd i wylio rhag peryglon ysbryd annibynnol. Er cydnabod llygredd neu ddiffyg o fewn yr eglwys heddiw, digon hawdd mynd ar gyfeiliorn drwy ddewis bod ar wahân i gredinwyr eraill, neu drwy ffurfio grwpiau bychain sy’n mynnu mynd eu ffordd eu hunain. Cofiwn Hebreaid 13:17.
Gwaed
Yn ail hanner y bennod cawn waharddiad rhag bwyta gwaed (10-14), ac yna cyfarwyddyd i geisio glanhad yn achos y sawl sy’n bwyta anifail sydd heb ei ladd mewn modd priodol (15-16). Ddwywaith dywedir bod ‘bywyd y corff yn y gwaed’ (11,14; cymharer Deuteronomium 12:23-25; Actau 15:20). Hynny yw, arwydd o fywyd yw gwaed. Duw yw awdur bywyd; sarhad ar Dduw, felly, yw bwyta neu yfed gwaed. Ond ar ben hynny, ‘y gwaed sy’n gwneud cymod dros fywyd’ (11). Hynny yw, dim ond drwy ollwng gwaed – gwaed anifail yn nhrefn aberthau’r Hen Destament, a hwnnw’n arwydd o waed Iesu Grist fel aberth cymod dros bechod (Hebreaid 9:12-14; 1 Ioan 1:7) – y cawn gymod â Duw (Hebreaid 9:22). Yng ngoleuni hyn i gyd, mae gwaed i’w barchu gennym fel symbol cysegredig.