Lefiticus 16:1-34
DYDD Y CYMOD
Yn y bennod hon – un o’r pwysicaf yn yr Hen Destament – cyflwyna Duw y drefn ar gyfer gwneud cymod dros bechod Israel. Wedi nodi’r paratoadau a’r canllawiau cyffredinol (1-10), manylir ar waith yr archoffeiriad ar yr achlysur arbennig hwn:
- aberthu dros ei bechod ei hun a’i deulu, llosgi arogldarth yn y cysegr sancteiddiaf, a thaenellu gwaed yr aberth ar ac o flaen y drugareddfa (11-14);
- aberthu bwch gafr i wneud cymod dros Israel (15-19);
- gyrru bwch gafr arall i’r anialwch, fel arwydd o symud pechod Israel (20-22);
- aberthu poethoffrymau drosto’i hun a’r bobl, a hefyd (gyda’r lleill sy’n cymryd rhan) dilyn defodau glanhau (23-28).
Pwysleisir cadw Dydd y Cymod yn flynyddol, fel achlysur difrifol a dwys (29-34).
Mae’r Testament Newydd yn gweld yma ddarluniau gwerthfawr o aberth cymod Iesu Grist ar y groes (e.e. Hebreaid 7:26-28; 9:1–10:22). Nodwn rai pwyntiau’n unig:
Y ddau fwch
Roedd y ddau fwch dieuog yn dwyn pechod pobl Israel drwy gael eu condemnio yn eu lle. Lladdwyd y naill i wneud iawn dros eu pechod (9,15-19). Gyrrwyd y llall – y ‘bwch dihangol’ – i’r anialwch i ddangos fod eu pechod wedi ei symud yn llwyr
(10, 20-28). Cyflawnodd Iesu swyddogaeth y ddau (Rhufeiniaid 3:25; 1 Ioan 3:5).
Y cysegr sancteiddiaf
Unwaith y flwyddyn, ar Ddydd y Cymod, mentrai’r archoffeiriad i ‘bresenoldeb’ Duw yn y cysegr sancteiddiaf, i wneud iawn dros bechodau’r Israeliaid (2-3,15,34). Cyflawnodd Crist symbolaeth y weithred hon hyd yr eithaf (Hebreaid 9:7-14).
‘Un waith am byth oedd ddigon’
Roedd yn rhaid cadw Dydd y Cymod bob blwyddyn (29-34), ond roedd aberth cymod Crist yn ddigonol ac yn effeithiol unwaith ac am byth (Hebreaid 9:25-26; 10:12).