Lefiticus 15:1-33
AFLENDID CORFF
Un math o aflendid seremonïol oedd haint ar y croen (penodau 13–14). Ym mhennod 15 nodir math arall, sef diferlif o’r corff – diferlif cyson (2-15) a gollwng had (16-18) yn achos dyn, a misglwyf (19-24) a gwaedu annormal (25-30) yn achos merch. Rhaid pwysleisio nad oes drwg yn y rhain fel y cyfryw. Nid yw misglwyf merch, er enghraifft, ynddo’i hun yn bechadurus. Wedi dweud hynny, mae’r hyn a nodir yn adnod 24 i’w ystyried yn bechod yng ngoleuni 18:19. Hefyd, mae’n bosibl fod yr angen am aberth i wneud cymod yn achos diferlif dyn (14-15) a gwaedu annormal merch (29-30) yn awgrymu y gall fod yma – mewn rhai amgylchiadau, o leiaf – ganlyniad i bechod rhywiol o ryw fath.
Dysgu gwersi ysbrydol i bobl Israel yw diben pennaf y cyfarwyddiadau hyn. Nodwn rai gwersi amlwg:
Cyfansoddiad corff
‘Ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed,’ medd Salm 139:14 (cyfieithiad William Morgan). O’r pen i’r traed, mae’r corff dynol – mor gymhleth ac eto mor ymarferol – yn rhywbeth i synnu ato. Ond rhaid cydnabod hefyd fod gwendidau amlwg bellach yng nghyfansoddiad y corff – y rhai yn y bennod hon, er enghraifft, neu salwch a llesgedd yn gyffredinol. Effaith cwymp Adda ac Efa yw’r rhain yn y bôn; ond tybed a yw Duw yn eu caniatáu i’n hatgoffa am ein gwendid a’n hangen (Eseia 40:6-8)? Mae’n sicr nad oes lle i ymffrost dynol: byrhoedlog yw ein holl ogoniant (Salm 90:5-10).
Cyflwr calon
Mae gwers arall yma, sef yr angen i roi sylw i’n cyflwr mewnol. Rhai dirgel yw’r gwahanol gyflyrau a enwir yn y bennod – maen nhw’n guddiedig rhag pobl eraill, ond yn hysbys i Dduw. Nid pethau allanol – ein parchusrwydd, ein statws, ein heiddo – sydd o wir bwys, ond cyflwr ein calon gerbron y Duw sy’n gweld y cyfan. Cofiwn weddïo geiriau Salm 90:8; 139:23-24 yn gyson.