Lefiticus 14:1-57
GLANHAD!
A oes gobaith am achubiaeth?
Oes maddeuant am bob bai?
Mae cwestiynau dwys Thomas Jones, Dinbych, yn ei emyn adnabyddus yn berthnasol iawn yn sgil y bennod ddiwethaf, gan fod ynddi ddarlun mor dywyll o haint ac aflendid pechod. Ond yma, ym mhennod 14, cawn ateb cadarnhaol.
Gwellhad
Gwelwn fod modd cael gwellhad o’r haint ar y croen. Yn wir, yr offeiriad a fu gynt yn barnu ar ran Duw fod person yn aflan yn awr yn datgan ei fod yn lân. Dyma ddarlun o ryfeddod yr efengyl: mae’r un Duw sy’n ein condemnio oherwydd ein pechod hefyd yn cyhoeddi fod y sawl sy’n credu yn ei Fab yn lân (cymharer Mathew 11:5; Marc 1:40-42). Hynny yw, mae Duw yn ateb gweddi Salm 51:2 hyd yr eithaf.
Gorchymyn
Gorchmynnir i’r un aflan ddangos ei lanhad cyn cael ei adfer i gymdeithas pobl Dduw (8-9). Os ydym ni wedi cael ein glanhau, rydym i fynegi ein haddoliad a’n diolch diffuant i Dduw (10-32). Ond rydym hefyd i amlygu ein glanhad drwy fyw bywyd sanctaidd, mewn ufudd-dod i’r Duw sydd wedi trugarhau wrthym (2 Corinthiaid 7:1).
Gwrthgilio
Mae rhybudd yma hefyd: rhaid trin o ddifrif achos o ‘aflendid’ – pydredd neu lwydni – mewn tŷ (33-57). Roedd hyn yn bwysig er mwyn iechyd Israel, ond gwelwn yn ogystal ddarlun o’r angen am burdeb ysbrydol a moesol ar aelwydydd pobl Dduw. Roedd y malltod yn arwydd o gilio oddi wrth Dduw, a’i ganlyniadau difrifol. Ac mae’r wers yn berthnasol nid yn unig i aelwydydd Cristnogol heddiw ond hefyd i’n heglwysi. Mae angen gwylio rhag arwyddion gwrthgiliad o fewn eglwys, rhag i Dduw gyhoeddi, ‘Rhaid tynnu’r tŷ i lawr’ (45; cymharer Datguddiad 2:5,16; 3:2-3,16).