Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 13

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 13

Lefiticus 13:1-59

AFIECHYDON Y CROEN

Symudir ymlaen yn awr at bobl sy’n dioddef gan afiechydon y croen, gan gynnwys, e.e. y gwahanglwyf. Atal yr afiechyd rhag ymledu yw un bwriad amlwg i’r cyfarwyddiadau yn y bennod hon. Ond mae bwriad arall hefyd: mae’r aflendid seremonïol sy’n gysylltiedig â’r afiechyd yn ddarlun o aflendid pechod, ac yn datgan yn eglur fod yn rhaid wrth lendid ysbrydol a moesol gerbron Duw.

Pechod: argyhoeddiad

Yr offeiriad a farnai ai glân neu aflan oedd person. Rhan o waith arferol yr offeiriaid oedd dysgu’r Gyfraith i’r bobl (10:11); wrth farnu cyflwr person, felly, roeddynt yn cynrychioli’r Gyfraith hon. Dyma ddarlun priodol o’r modd y mae Cyfraith Duw yn dangos i bobl eu pechod, gan eu hargyhoeddi o’u cyflwr anghenus gerbron y Barnwr dwyfol (Rhufeiniaid 7:7,13). Diben gwerthfawr y Gyfraith – e.e. y Deg Gorchymyn – yw ein dwyn i weld ein methiant, ein heuogrwydd, a’n haflendid o flaen Duw, a’n hangen dybryd felly am Waredwr (Rhufeiniaid 3:20,23-25).

Pechod: canlyniad

Mae’r cyfarwyddyd yn adnod 45 yn tystio i gyflwr truenus y claf. Ond yn adnod 46 mae rhywbeth gwaeth fyth: câi’r claf ei gau allan o’r gwersyll (Numeri 5:1-4). Hynny yw, câi ei wahardd rhag mynd i gysegr Duw a phrofi bendithion pobl Dduw. Diogelu iechyd Israel yw’r nod yn y bôn, ond cawn yma hefyd ddarlun o ganlyniadau difrifol ‘aflendid’ pechod ym mhob man – yn diraddio pobl ac yn torri eu cysylltiad â Duw.

Pechod: dylanwad

Mae pechod yn llygru’r person cyfan – meddwl, calon, ac ewyllys. Ac mae effaith pechod wedyn yn ymledu i ddylanwadu ar bob rhan o fywyd. (Ystyr ‘yn ystof neu’n anwe’ yn adnodau 47-59 yw ‘unrhyw ran o’r dilledyn’.) Rhaid bod yn effro i’r dylanwad dirgel hwn – rhag i bechod gael gafael dyfnach arnom, rhag inni lygru pobl eraill, a rhag inni gael ein llygru ganddynt hwy (Jwdas 23).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF