Lefiticus 12:1-8
PURO GWRAIG AR ÔL GENEDIGAETH
Wedi’r deddfau ynghylch bwyd ‘glân’ ac ‘aflan’, troir yn awr at ‘aflendid’ pobl, gan ddechrau gyda gwraig sydd wedi esgor ar blentyn. Mae’n bwysig deall nad yw’r pethau sy’n cael sylw yn y penodau hyn yn ddrwg ynddynt eu hunain. Deddfau seremonïol sydd yma, yn dysgu gwersi ysbrydol i’r Israeliaid. Nid gweithredoedd drwg yw cenhedlu a geni plentyn (gweler, e.e., Genesis 1:28; 4:1; Salm 127:3-5). Nid oedd gwraig a esgorodd ar blentyn yn aflan ynddi ei hun; ond roedd hi i’w chyfrif yn aflan er mwyn cyfleu gwirioneddau ysbrydol iddi hi a gweddill y genedl.
Esgor mewn pechod
Yn gyntaf, mae poenau’r wraig wrth esgor ar blentyn yn rhan o’r gosb a gyhoeddodd Duw ar ôl i Efa arwain Adda i anufuddhau iddo (Genesis 3:16). Roedd hi i’w hystyried yn seremonïol aflan dros dro fel arwydd o’i haflendid ysbrydol yn sgil cwymp Adda ac Efa. Ac roedd ei chau allan o’r ordinhadau crefyddol arferol (4) yn arwydd fod yr aflendid hwn yn ei chau allan o bresenoldeb Duw. Er hyn i gyd, roedd Duw yn ei ras yn darparu adferiad llwyr iddi: ymhen amser priodol, ac wedi cyflwyno poethoffrwm ac aberth dros bechod (6-8), câi ei ‘glanhau’. Dyma ddarlun o’r glanhad gwirioneddol sydd i bechadur edifeiriol drwy aberth iawnol Crist (Hebreaid 9:12-14).
Geni mewn pechod
Roedd yn rhaid gohirio enwaedu ar fachgen tan yr wythfed dydd, pan fyddai ‘aflendid’ y fam drosodd (2-3). Hynny yw, mae ‘aflendid’ ysbrydol y fam hefyd yn perthyn i’r plentyn o’r cychwyn cyntaf (Salm 51:5). Pa mor annwyl bynnag y bo’r plentyn, mae’n bechadur wrth natur. Dyna ein cyflwr ni i gyd wrth ddod i’r byd.
Aberth dros bechod
Wedi esgor ar Iesu, cyflwynodd Mair offrwm a weddai i wraig dlawd (8; Luc 2:22-24). Dyma dystiolaeth i dlodi cefndir daearol Iesu, a rhyfeddod ei ymddarostyngiad wrth ddod i’r byd i achub pechaduriaid aflan a thruenus (2 Corinthiaid 8:9).