Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus 11

14 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Lefiticus 11

Lefiticus 11:1-47

SANCTEIDDRWYDD: GLÂN AC AFLAN

Mae’r bennod hon, ynghyd â’r rhai sy’n dilyn, yn pwysleisio sancteiddrwydd Duw a’r sancteiddrwydd sydd i nodweddu ei bobl. Yma cyflwynir canllawiau ynglŷn â bwyd, gan wahaniaethu rhwng anifeiliaid glân y gellir eu bwyta a rhai aflan (1-23,41-43). Gan fod cyffwrdd â chorff anifail marw’n achosi aflendid seremonïol, rhaid wrth lanhad (24-40). Bwriad y canllawiau hyn oedd dangos fod Israel yn sanctaidd i Dduw (44-47; 19:2). Gan nad yw Israel yn bodoli fel cenedl sanctaidd mwyach, dengys y Testament Newydd nad yw’r deddfau hyn mewn grym yn awr (e.e. Actau 10:13-15; Rhufeiniaid 14:20; 1 Timotheus 4:4).

Aflendid 1

Gan mai Duw sydd wedi creu’r cyfan, nid yw’r anifeiliaid ‘aflan’ yn aflan ynddynt eu hunain. Mae’n bosibl i’r Israeliaid gael eu gwahardd rhag eu bwyta am resymau glendid ac iechyd, neu oherwydd fod arferion paganaidd yn gysylltiedig â rhai o’r anifeiliaid. Yn fwy na dim, fodd bynnag, roedd y gwahaniaethu rhwng ‘glân’ ac ‘aflan’ yn cyhoeddi fod Israel yn wahanol i genhedloedd eraill. Roedd Duw wedi ei chysegru iddo’i hun ac yn ‘preswylio’ yn ei chanol. Dyma faen prawf iddi, felly: roedd hi i ddangos ei hufudd-dod a’i theyrngarwch iddo drwy ymwrthod â phob peth roedd Duw yn ei alw’n ‘aflan’. Cawn allwedd i’r cyfan yn adnodau 44-45, sydd yr un mor berthnasol i ni (1 Pedr 1:15-16). Gweler egwyddor 2 Corinthiaid 6:14–7:1.

Aflendid 2

Cyfeirio at ‘aflendid’ seremonïol, nid aflendid corfforol, y mae’r gair ‘aflan’ yn y bennod hon, ac mae’r ‘aflendid’ seremonïol hwn yn ddarlun trawiadol o bechod. Diben arall y canllawiau, felly, yw ein hatgoffa am yr angen cyson am lendid ysbrydol a moesol gerbron Duw, ac am ddelio ag aflendid pechod o ddifrif. Yn achos Israel, mae’r bennod hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer y glanhau ar Ddydd y Cymod (pennod 16). Ond gall y Cristion lawenhau o waelod calon fod glanhad llwyr oddi wrth holl aflendid pechod drwy farwolaeth iawnol Iesu Grist (1 Ioan 1:7-9).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF